Cynhaliwyd ‘Sadwrn Siarad’ ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli yn ddiweddar.

Trefnir y cwrs yn flynyddol gan Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin (Prifysgol Bangor) mewn partneriaeth â Merched y Wawr ardal Dwyfor.

Daeth bron i 80 o ddysgwyr i fwynhau gwersi ac elfen bwysig iawn o’r diwrnod oedd y cyfle i’r dysgwyr sgwrsio ac ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol.

Darparodd aelodau Merched y Wawr baneidiau a chacennau ar gyfer y dysgwyr cyn cymryd rhan yn y sesiwn sgwrsio.

Dechreuodd y cwrs undydd yma dros 40 mlynedd yn ôl dan ofal Merched y Wawr, ac er i Brifysgol Bangor a Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin gymryd cyfrifoldeb am yr elfen dysgu yn ddiweddarach, mae cyfraniad Merched y Wawr yn parhau i fod yn un gwerthfawr iawn.

Dywedodd Martyn Croydon, ar ran Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin: “Dan ni’n ddiolchgar i aelodau Merched y Wawr am eu cyfraniad at y diwrnod yma.

“Mae ein siaradwyr Cymraeg newydd wrth eu boddau’n cael cyfle i ddefnyddio’r iaith efo nhw.

“Diolch hefyd i Goleg Meirion-Dwyfor am eu cefnogaeth ac i’r tiwtoriaid am eu gwaith caled yn paratoi a darparu’r gwersi.

“Roedd hi’n wych gweld cymaint yn mwynhau dysgu a siarad Cymraeg, sawl un yn dweud bod y diwrnod wedi’u hysbrydoli.”