Cyngor cymuned
DEALLWYD oddi wrth y Cyng Dewi Owen y bydd posibilrwydd eto o newidiadau i ddyfodol y toiledau.Gofynwyd i’r cyngor hefyd am ddrws newydd i doiledau’r dynion a sistern newydd i doiledau’r merched.Derbyniwyd yr arwyddion newydd a archebwyd trwy Hedd Bled-dyn Williams, sef arwyddion safle bws, afon Sychan a’r ganolfan.Diolchwyd am eu ymateb buan ar gwaith da. A493 Hafoty i Dolgelynen: Derbyniwyd llythyr yn ôl o Gyngor Gwynedd yn ein hysbyu bod adroddiad ar fu’n cael eu wneud ar y lleoliad yma lle mae pump damwain wedi digwydd yn ddi-weddar. Derbyniwyd ymateb yn egluro bod angen gwneud rhywbeth ar y lleoliad hyn, ond bydd yn rhaid torri coed yn y lleoliad yma yn gyntaf.Atgyweiriwyd y cloc yn Pennal sydd yn glwm i’r eglwys yn Medi 2003. Derbyniwyd grant trwy Pen-nal Ni a’r cyngor. Ar ôl eu atgyweirio, y cytundeb oedd, mae’r eglwys fyddai yn gyfrifol am dano ar ôl cwbwl hau’r gwaith ac mae’r gymuned sydd eu berchen.Penderfynwyd archebu dwy sedd blastig wedi eu gwneud gan Birch Plasic Recycling; un i Cwrt a’r llal i Bennal.Deallwyd y bydd dau gynreichiolydd o Parc Cenedlaethol Eryri yn mynychu ein pwyllgor mis Chwefror.Mae’r cyngor am aros am fwy o wybodaeth am brisiau am CCTV cyn gwneud penderfyniad.Derbyniwyd llythyr o ddiolch oddi wrth y Dail Dysynni am eu cyfraniad o £75.Derbyniwyd llythyr o ddiolch oddi wrth Sue Main am gyfraniad y cyngor o £100 tuag at Treialon Cwn Defaid RhyngwladolCanlyniadau ceisiadau cynllunio caniatawyd gan y parc: Pen Bryn, Pennal, codi garej sied a ty gwydr; Esgairweddan, Pennal, ymgymho-riad a NP75/E240; Cefn Cynhafal NP75/E239 ymgymhoriad arall.Deallwyd nad ydi yn argoli yn dda i gael gwaith wedi eu wneud i lanhau’r afon Sychan yn Pennal eto, ond ydi’r cyngor ddim yn fodlon ar hyn, mae’r cyngor yn awyd-dus i gael pwyllgor gyda Dafydd Roberts i drafod ymhellach.Deallwyd trwy Mr Owen nad oedd cynghorau Tywyn ag Aberdyfi yn fodlon ar y cynlluniau newydd i’r bont newydd i Bontarddyfi, gofynwyd am farn y cyngor.Pasiwyd na allair cyngor wrthwynebu hyn gan ein bod wedi bod yn gofyn am bont newydd ers 30 mlynedd.Deellir bod problem gyda bont y rheilffordd ag y bydd hon yn dal yn rhy isel i lorïau mawr, ond balch ydy’r cyngor bellach o gael pont newydd wedi blynyddoedd o aros.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.