Merched y Wawr Deudraeth
BLWYDDYN Newydd Dda i bawb oedd y neges ar gychwyn ein cyfarfod cyntaf yn 2016 a chychwyn ardderchog gawsom pan ddaeth Jon Dobson Jones y Paramedic o Borthmadog atom i’n diddanu. Wel, dim diddanu yw’r gair ond i’n haddysgu ar sut i weithio’r ‘defibrillator’. Mae’r cyfryngu wedi sôn digon am Ionawr sych ond gwell fuasai iddynt sôn am fis nesaf fel ‘Fibruary’ meddai Jon.Rydym wedi clywed sôn am y peiriant yma fwy a mwy yn ddiweddar ond heb ei weld yn agos, na deall yn union beth yw ei bwrpas. Esboniodd Jon fod gan beiriant defibrillator y gallu i ail gychwyn calon glaf sydd wedi dioddef trawiad marwol. Yn ychwanegol dangosodd fod yn bosib i berson heb gefndir meddygol ddefnyddio’r peiriant gan ei fod wedi raglennu efo llais sy’n rhoi cyfarwyddiadau clir a manwl. Diolch i Gwen am ddangos sut i achub bywyd ‘Little Anne’.Yn ôl Jon mae angen defibrillator ymhob pentref a hwnnw ar gael yn hawdd i’r cyhoedd. Y gost yw tua £800 yr un i brynu - swm eithaf mawr - ond beth yw gwerth bywyd.Mae’r gangen yn ddiolchgar i Jon am roi o’i amser prin i ddod atom. Roedd gwrando arno yn rhoi’r hyder pe bai angen anfon am ambiwlans rhywbryd i beidio ag ofni oherwydd rydym mewn dwylo da iawn.Tro nesaf byddwn yn dathlu Dydd Gwyl Dewi ar 29 Chwefror am 7yh yn y Neuadd Fawr. Cawn wledd o gawl a chân yng nghwmni Gwenan Gibbard a’i thelyn, mi ddaw’r dysgwyr atom a chawn gwmni ein Llywydd Cenedlaethol, Meryl Davies. Croeso cynnes i chwi ymuno a’r gangen
Clwb Camera Deudraeth
WHEN the scheduled speaker was unable to attend the meeting on 25 January at the last minute, an impromptu practical evening was swiftly organised by Amanda Sims, programme secretary.
Items of paraphenalia, lights and backgrounds were brought along by some of the members and all who had come along enjoyed themselves experimenting with table top and still life photography. There was also the added bonus of having a go at portraiture with those of us who were not too cam-era shy acting as models. All in all, a very successful effort.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.