Merched y Wawr

HUNLLEF unrhyw gymdeithas yw cael galwad ffôn ben bore yn datgan fod y wraig wadd yn methu cyrraedd y cyfar-fod oherwydd salwch. Dyna yn union ddigwyddodd i Gangen Deudraeth ond na phoener gan fod gen-nym gynllun ‘B’. A gwir i chi cawsom noson ddifyr, addysgiadol a hwyliog yn sgil cynllun ‘B’.Gwahoddwyd aelodau i sgwrsio am y troeon trwstan roedd wedi digwydd id-dynt. Nerys Roberts gychwynnodd hefo sawl stori hwyliog amdani hi a Caerwyn yn crwydro hyd a lled y wlad — yn colli ffordd wrth chwilio am dai ffrindiau a theithio ar y trên heb y tocynnau priodol! Yna Catherine Jones yn dweud ei hanes yn eneth ifanc syth o’r coleg yn dechrau gweithio yn swyddfeydd y cyngor ac fel y dysgodd am fywyd yn sydyn iawn. Mae pob un ohonom yn cydymdeimlo hefo ‘run sefyllfa dwi’n siwr.Aeth Gwenda Paul ar drywydd gwa-hanol gan ddarllen darn roedd wedi ysgrifennu i’r Wylan ychydig o flynyd-doedd ynghynt yn sôn am feddyginia-ethau llysieuol. Soniodd am y ffisig gafodd gan ei mham pan oedd yn blentyn â’r blas drwg roedd arno. Faint ohonoch chi sy’n cofio’r wermod lwyd, asiffeta a sawl cymysgedd arall?Cawsom ddisgrifiad gan Helen Ellis o gyd-weithiwr iddi a oedd yn ôl y sôn yn dueddol o gael damweiniau, hynny yw, be mae’r Sais yn galw yn ‘accident prone’. Clywsom hanes y larwm dân yn canu yn y gwesty mewn cynhadledd â phawb wedi ymgynnull tu allan ond i ddar-ganfod mai ei ffrind oedd wedi gadael sychwr gwallt ymlaen yn ei ystafell gan gychwyn tân!Ond stori addysgiadol oedd gan Mrs Evan V Jones yn adrodd ei hanes yn gweithio mewn ffatri yn Llanberis adeg yr ail ryfel byd. 4139 oedd ei rhif gwaith, felly mae gennych ryw syniad o’r nifer oedd yn gweithio yn gosod ‘tail frames’ ar awyrennau Lancasters a ‘bomb brack-ets’ ar Wellington bombers. Roedd shift bore yn cychwyn am 7.30yb, hyd at 7.30yh,, yna shift nos o 7.30yh, tan 7.30yb. Caniatawyd 30 munud i fwyta cinio a 15 munud i gael paned. Meddyliwch sefyll am bron i ddeuddeg awr ar y tro ar llawr concrid! A hynny saith diwrnod o’r wythnos a dim gwyliau o gwbl. Weithiau clywid awyrennau’r Almaen-wyr uwchben, yn enwedig ar noson olau leuad, doedd dim amdani ond rhedeg am dwneli’r chwarel i fochel rhag cael eich saethu. Difyr iawn oedd y darlun yna o’r amser caled bywyd y gweithwyr yn yr ail ryfel byd.Eisteddfod Hwyl y Gangen - dyna sydd gennym fis nesaf. Felly, ewch ati i fard-doni, coginio neu wnïo.

Clwb Camera Club

IT FELL to Bob Bloodworth to save the blushes of the male members on Monday night when the ladies trounced the men in the new Monochrome competition. The entries were fewer than usual in what is a fairly narrow discipline, but judged by the club’s only man of letters, Terry Mills, the quality of the winning work entered by the girls was justifiably deemed to be of a high quality, both in content and presentation. The print section produce a clean sweep for the girls, with Amanda Sims taking the top slot, closely followed by Pauline Bedson and Gwladys Roberts who were placed second and third respectively. Bob Bloodworth managed to split the female opposition in the PI event, where Gwladys was declared the winner and second runner-up.