Merched y Wawr

YN ein cyfarfod mis Ebrill, croesawodd Gwyneth yr aelodau a Meryl, ein Llywydd Cenedlaethol, i’w chartef ym Mhen Uwch ac yn gyntaf cydymde-imlwyd â Mair Mynydd ar farwolaeth Morus, ei gwr.Hefyd llongyfarchwyd Meri ar ddod yn drydydd yn yr Wyl Wanwyn ar weu planced i gôt babi.Wedyn dywedodd fod pawb ond un yn gwybod nad dod yno i weld yr ardd yr oeddem mewn gwirionedd, a’r un nad oedd yn gwybod y gwir oedd Marian Thomas, oherwydd dod i Ben Uwch i ddathlu ei phenblwydd oed-dem go iawn fel syrpreis iddi hi!Ar 20 Mai bydd Mrs T yn 90 oed, ond gan ein bod yn mynd i Fferm Llwyndyrus ym mis Mai penderfynwyd fod raid dathlu pen-blwydd arbennig un o sylfaenwyr y gangen, felly pam ddim cael dau ben-blwydd?Mae’r frenhines yn cael dau ac yn sicr Mrs T ydi ein brenhines ni ym Mhistyll! Felly pam ddim cael dau ddathliad ynde?Cafwyd gwledd a hanner wedi ei pharatoi gan rai o’r aelodau, a chacen benblwydd hardd gan Bev a cherdyn, anrheg a blodau gan aelodau’r gangen.Diolchodd Meryl i Marian am fod mor driw i’r gangen a rhoddodd hithau anrheg iddi.Yna diolchodd Mrs T i bawb am y noson wych gan ddweud “os da chi ddim isio mynd yn hen, dowch i gangen Pistyll!”Cytunodd y swyddogion i gyd i aros yn eu swyddi flwyddyn nesaf.Eurwen enillodd y raffl rhoddedig gan Janet Wyn, a diolchodd Gwen i bawb ar y diwedd, yn enwedig Gwyneth ac Eunice am drefnu’r noson.