Cynhaliwyd Cwrdd Diolchgarwch plant ac ieuenctid Ysgol Sul Rhydfendigaid, Pontrhydfendigaid y capel fore dydd Sul, 1 Hydref.

Croesawodd Neli Jones bawb i’r oedfa gan ddatgan ei bod yn hyfryd gweld cynulleidfa deilwng wedi troi allan ar fore digon garw.

Crewyd awyrgylch hyfryd, gyda’r capel wedi ei addurno gyda blodau, planhigion, llysiau a ffrwythau.

Diolch i’r plant ac ieuenctid a fu’n cymryd rhan, sef Gwawr, Jess, Mati, Elen, Guto, Gwenno, Buddug, Jos, Beca, Deio, Awen, Jano, Anni, Mari Wyn, Steffan, Anest, Ifan John, Defi, Elan, Rhys a Heti, ac i Ann, Jên, Gwawr a Neli am eu hyfforddi.

Roedd yn hyfryd cael cwmni Ned bach hefyd fel rhan o’r gynulleidfa. Diolch i’r rhieni am eu cefnogaeth arferol ac am eu hanogaeth. Gwnaed casgliad tuag at yr Ysgol Sul gan Mati a Jess.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]