Wythnos ddiwethaf agorwyd Arddangosfa Hen Luniau yn Neuadd Goffa Abersoch, y 14eg arddangosfa i’w drefnu gan Grwp Treftadaeth Plwyf Llanengan.

Roedd yna gannoedd, os ddim miloedd o hen luniau o bobl yr ardal a lluniau o’r ardal yn gyffredinol ar hyd y blynyddoedd i’w gweld a’u mwynhau, gan dod ag atgofion bendigedig yn ôl i bawb wnaeth bicio draw.

Agorwyd yr arddangosfa eleni gan John Elfyn Gruffydd, Llangian, sydd ers ymddeol flwyddyn yn ôl wedi bod yn ymwneud a chynorthwyo Grwp Treftadaeth Plwyf Llanengan.

Mae’r arddangosfa ar agor bob diwrnod, heblaw dydd Sul, o 10yb tan 4yp, gyda mynediad yn rhad ac am ddim.

Bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan 31 Awst.