Mae Coleg Meirion-Dwyfor wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar y cyd gydag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd o dan y pennawd ‘Pontio’r Cenedlaethau’.

Croesawyd pump o ferched aeddfed y gymuned leol yn Nolgellau i ymuno â’r myfyrwyr mewn gweithgareddau gyda phwyslais ar rannu profiadau.

Meddai llefarydd ar ran y coleg: “Cafwyd hwyl yn sgwrsio dros gemau bwrdd megis cardiau a draughts a thrafod eu dyddiau yn yr ysgol, ffasiwn a steiliau gwallt eu cyfnod.

“Yn ogystal, bu’r myfyrwyr yn gwrando’n astud arnynt yn adrodd am eu profiadau yn ystod y rhyfel a chyfnodau o gynni ac yn y blaen.

“Bu’r myfyrwyr celf yn rhan o’r gweithgareddau hefyd a buont yn braslunio y gwesteion a chyflwyno’r darluniau gorffenedig iddynt. Roedd safon y gwaith yn arbennig o uchel.

“Yn sicr, mae’r myfyrwyr wedi elwa’n fawr o’r sesiynau yma a gobeithir yn fawr i’r gwesteion gael budd o’r profiad hefyd. Edrychir ymlaen i gynnal yr ychydig sesiynau sy’n weddill.”