GwasanaethauCARMEL (Bedyddwyr): Dydd Sul, 31 Ionawr: 2yp, Cwrdd Gweddi yng Nghaersalem, Ffair Rhos.Rhydfendigaid (Presbyteriaid): Dydd Sul, 31 Ion-awr, 10yb, y Parch Carwyn Arthur, Tregaron; 11yb, Ysgol Sul.ServicesSTRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 31 January, Holy Eucharist at Dewi Sant Church.Cyngerdd MerêdMAE CYNGERDD Coffa y Dr Meredydd Evans a oedd i’w gynnal yn y pafiliwn ar 5 Mawrth wedi ei ohirio, a’r dyddiad bellach yw dydd Sul, 1 Mai. Bydd y cyngerdd yn cydredeg gydag Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen sydd i’w cynnal dros ben-wythnos Gwyl Calan Mai, 29 Ebrill i 2 Mai.Ar y Sul, bydd yna Wasanaeth Undebol yng Ngh-apel Siloam, Cwmystwyth yn y bore, sesiwn Werin yn y prynhawn yn y pafiliwn, bydd Talwrn y Beirdd yr eisteddfodau’n cael ei gynnal, a sesiwn Werin arall yn yr hwyr. Bydd artistiaid poblogaidd yn cymryd rhan, a bydd manylion llawn ar gael yn fuan. Mae cyngerdd Merêd yn cael ei drefnu gan bwyllgor Cymdeithas William Salisbury gyda chefnogaeth pwyllgor Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen, Pontrhyd-fendigaid.Merched y WawrCYNHALIODD Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch eu cinio blynyddol i ddathlu Gwyl Santes Dwynwen yn Ysgubor Teile, Bwlchllan, nos Wener, 22 Ionawr. Roedd criw da o aelodau a ffrindiau wedi dod ynghyd, a chroesawodd y llywydd, Neli Jones, bawb yn gynnes. Cyn bwyta, traddodwyd y gras gan Elen Jones gyda phawb yn ymuno â hi, a mwynhawyd pryd tri chwrs blasus iawn, gyda chanmoliaeth mawr gan bawb i’r wledd a oedd wedi ei pharatoi. Diolchodd y llywydd i deulu Sgubor Teile am y wledd a’r croeso twymlaon a dderbyniwyd yno, i Gwenda Hughes, yr ysgrifennydd, am y trefniadau trylwyr, ac i Ann Jones am yrru’r bws mor ofalus. Diolchodd Lyn Ebenezer ar ran y gwyr a oedd yn bresennol am gael gwahoddiad i ymuno â’r gwra-gedd i ddathlu. Enillwyr gwobrau’r raffl oedd Lyn Ebenezer, Myfanwy Huws, Ina Morgans, Ann Jones, Ian Huws, Joan Davies, Llinos Jones a Mari Arch.Whist driveA WHIST drive will be held at Pantyfedwen Hall on Wednesday, 10 February, at 8pm.