Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 15 Mai, 10yb, Parch Elwyn Pryse, Bow Street. 11yb, Ysgol Sul. Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 15 Mai: 2yp, Parch Andrew Lenny, Oedfa Gymun.
Services
STRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 15 May, 8.30am, Holy Eucharist at St David’s Church.
Merched y Wawr
CYNHALIWYD cyfarfod mis Mai Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch yn Ystafell Chwaraeon Neuadd Pantyfedwen. Roedd y noson yng ngofal My-fanwy Huws a Del Sidford, gyda chymorth Gwenda Huws. Croesawodd Myfanwy y wraig wadd, sef Angharad Elias, sydd ar hyn o bryd yn byw yn Nhy Fflorida gyda’i theulu, Neal a Caio’r mab bach. Cafwyd orig ddiddorol yn gwrando ar Angharad yn sôn am Gyfreithiau Hywel Dda, sef ei harbenigedd, trwy lun a sgwrs. Mwynhawyd paned i ddilyn, trafod busnes a thynnu’r raffl a enillwyd gan Llinos Jones. Bydd y cyfarfod nesa ar nos Fawrth, 24 Mai, sef noson i ddewis swyddogion ar gyfer y tymor nesa, gyda phaned a chlonc i ddilyn. I gloi’r tymor, bydd Jên Eben-ezer yn trefnu Trip Dirgel ar gyfer dydd Gwener 2 Medi.
Parlour Racing and Auction
THE Bont Shearing committee will be holding a Parlour Racing and Auction evening at Pantyfedwen Hall on Saturday, 14 May, at 7.30pm. Refreshments will be available, and a warm welcome is extended to all.
Wythnos Cymorth Cristnogol
BYDD Bore Coffi’n cael ei gynnal yn Festri Rhydfendigaid bore dydd Sadwrn 21 Mai, o 10yb hyd 11.30yb, gyda stondin amrywiol, raffl a lluniaeth ysgafn. Bydd yr holl elw’n mynd tuag at Wythnos Cymorth Cristnogol. Estynnir croeso cynnes i bawb.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.