Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 11 Medi: 11yb, Ysgol Sul; 2yp, Ymuno â Charmel am yr Oedfa Gymun Undebol gyda’r Parch Andrew Lenny.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 11 Medi: 2yp, Parch Andrew Lenny (Gwasanaeth Cymun), Oedfa Undebol.
Services
STRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 11 September – 8.30am, Holy Eucharist at Dewi Sant Church.
Coffee Evening
THE annual coffee evening in aid the Strata Florida Churches will be held at St David’s Church on Friday, 9 September at 6pm.
Merched y Wawr
CYNHALIWYD Trip Dirgel Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch ddydd Gwener, 2 Medi. Cychwynwyd o Neuadd Pantyfedwen yn y bore, gan yrru ‘mlaen I Fachynlleth.
Y gyrchfan gynta yn y fan honno oedd Senedd-dy Owain Glyndwr, a diolch i Alan Wynne Jones, cadeirydd y Ganolfan am y croeso ac am hanes sydd ynghlwm â’r lle. Yn ôl i’r bws a mynd fyny i ardal Y Bala, ac ymweld â chanolfan newydd Byd Mary Jones yn Llanycil.
Cafwyd croeso cynnes yno hefyd, cael gweld ffilm ar hanes Mary Jones ac ymweld â’r hen eglwys sydd erbyn hyn wedi ei throi’n amgueddfa arbennig.
Y gyrchfan ola oedd Gwesty’r Wildfowler yn Nhre’r-ddôl, gan fwynhau swper blasus dros ben yno.
Diolchodd y llywydd, Neli Jones i Jên Ebenezer a oedd wedi trefnu’r daith, a hefyd i Ann Williams ac Elen Jones am ei chynorthwyo.
Diolchodd hefyd i Clare Hughes am ei gyrru gofalus yn y bws-mini ac i Elen Jones am yrru’r car.
Tynnwyd y raffl, a’r enillwyr oedd: Ann Arch, Eleri Arch ac Ian Huws. Bydd y tymor newydd yn cychwyn gyda’r gangen yn cynnal stondin gacennau yn Ffair Neuadd Pantyfedwen ar nos Wener, 23 Medi.
Sioe Bont
CAFWYD sioe lwyddiannus iawn ddydd Sadwrn, 20 Awst ar gae Dolfawr, trwy garedigrwydd y teulu Herberts.
Hyfryd oedd cael presenoldeb y llywydd, Beryl Lawrence, Llanafan Fawr, Llanfair ym Muallt (Caemadog gynt). Diolch yn fawr i bawb a gyfran-nodd mewn unrhyw fodd tuag at lwyddiant y sioe.
Enillwyr adran y babell oedd: Coginio: Ceri Evans, Llangwyryfon; Plant: Ifan Pugh, Ffair Rhos; Cyffeithiau: Gwenda Davies, Llanilar; Gwaith Llaw: Eluned Davies, Dihewyd; Crefftau Gwledig: Richie Jenkins, Ffair Rhos; Cynnyrch Gardd: Gwenda Davies; Cynnyrch Fferm: Gwenda Davies; Blodau: Ceri Evans ac Annwen Davies, Swyddffynnon; Lleol: Mair Jenkins, Ffair Rhos; Plant lleol: Megan Herberts, Pontrhydfendigaid; Enillydd y mwyaf o bwyntiau yn y babell: Gwenda Davies.Enillwyr raffl y sioe: Mair Jenkins, John Lowe, Rhiannon Jones, Cari Gwanwyn Davies, Teulu Caemawr, John Williams, Teulu Mallows, Sali Morgan, Nancy Cook, Cassie Williams, Glyndwr Owen, Aeronian Herberts, Teulu Tyncwm a Debra Tynllan.
Coed y Bont
COED y Bont is hosting an open day on Sunday, 11 September, beginning at 11am until 3pm and you are cordially invited to the fun, activities and festivities.
You will be able to look at the recently installed display of mosaics and wood carvings which have been made by local school children, join in the family fun, meet around a campfire where you can roast marshmallows and popcorn, learn circus skills, make a leaf crown, enter the Great Nut Hunt and woodland walk and so much more.
Rhydfendigaid
PRYNHAWN Sul, 28 Awst, aeth llond bws-mini o aelodau a ffrindiau i gapel bach Soar y Mynydd, i wrando ar Dafydd Iwan yn pregethu.
Roedd yn oedfa hyfryd, gyda’r capel yn orlawn. Ar ddiwedd y gwasanaeth, canodd Dafydd dair cân i gyfeiliant ei gitâr.
Mwynhaodd bawb de prynhawn yng Ngwesty’r Talbot, cyn i Clare Hughes yrru pawb adre’n ddiogel; diolch iddi am ei chwmni.
Dydd Sadwrn, 3 Medi, cynhaliwyd trip blynyddol yr Ysgol Sul. Y gyrchfan oedd Blue Lagoon yn Sir Benfro, a chafwyd taith hyfryd lawr drwy Gaerfyrddin, gan aros yno am baned cyn mynd ymlaen am y pwll nofio moethus.
Teithiwyd nôl drwy Aberteifi, er mwyn cael mwynhau swper blasus yn Aberaeron cyn dychwelyd adre am y Bont. Diolch i Nerys am ei gyrru gofalus drwy’r dydd.
Bydd yr Ysgol Sul yn ail-gychwyn fore Sul, 11 Medi am 11yb.Croeso cynnes i unrhyw blentyn sydd am ymuno â’r Ysgol Sul fywiog yn Rhydfendigaid.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]