Cymdeithas Ddiwylliannol Undebol Capel y Porth
AR NOS Lun, 22 Chwefror croesawyd Gwyn Pierce (yn wreiddiol o Dalsarn) i’n plith gan Selwyn Griffith.Roedd gan Selwyn gysylltiad personol â’r gwr gwadd â’u cyfeillgarwch yn mynd yn ôl pan fu’r ddau yn gweithio yn siop ffrwythau DJ yng Nghricieth. Testun y gwr gwadd oedd Canu Ysgafn Cymraeg yn y 50au, 60au. Y dylanwad cyntaf soniodd amdano oedd dylanwad yr Ysgol Sul a’r Nosweithiau Llawen gyda Charles Williams, Co Bach, Bob Roberts a Thriawd y Coleg. Dylanwad arall oedd y Plaza, sef ffilmiau cowbois fel Roy Rodgers a Gene Autrey a fyddai yn canu caneuon fel Red River Valley, ond buan iawn byddai cyfieithiad wedi ei wneud i’r Gym-raeg. Aeth ymlaen i sôn am Gwch Dafy’r Abar a oedd yn gân Negroaidd o’r Deep South.Dylanwad mawr ar ganeuon Cymraeg ar y pryd oedd y rhaglen Children’s Favourites ar y radio gyda Burl Ives a Peter Paul a Mary yn dod â chaneuon Frog Went a Courting (Gee Ceffyl Bach) a Big Rock Candy Mountain (Bryniau Bro Afallon).Daeth grwpiau sgiffl wedyn a chaneuon Lonnie Donegan Hallo Mary Lou (Lona Lân) a Takes a Worried Man (Dowch ar y trên bach). Daeth wedyn i gyfnod Hogiau Llandegai a John ac AlunBeth oedd yn ein taro yn ystod y noson oedd y ffaith fod cymaint o ganeuon poblogaidd Americanaidd / Saesneg yn cael eu cyfieithu yn y cyfnod yma a llawer o Gymry ar y pryd yn anwybodus o’u tarddiad ac yn credo mai caneuon Cymraeg oeddynt.Mwynhawyd y noson yn fawr iawn a diolchwyd yn gynnes iddo gan Chrstopher Prew. Diolch hefyd i staff y gegin am y baned.
The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints
THIS coming Sunday in Y Ganolfan, High Street: 10am, main service (with bilingual communion); 11.20am, gospel study (Sunday School for all ages).Everybody welcome.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.