Cymdeithas Undebol
AR 7 Mawrth cafwyd adloniant cartrefol, sef Pawb a’i Bwt. Daeth saith aelod ymlaen i roi hanesyn byr i ni. Soniodd Dewi Morris am sawl tro trwstan a gafodd yn ystod ei 40 mlynedd fel gweinidog. Aeth Meryl Pike i gyfeiriad ei thaid, sef Noel Pike a ddaeth i Borthmadog 1901. Roedd wedi cadw dyddiadur manwl o’i fywyd a difyr iawn oedd cael ei hanes yn dechrau torri gwalltiau pan yn 13 oed. Ymysg ei gwsmeriaid oedd Dame Sybil Thorndyke, Lloyd George a’r Dug Caeredin. Hanes ei theulu gafwyd gan Helen Ellis, sef Llyfrau Llofnodion ei mam. Roedd ei mam wedi cael ei magu yn Nhy’r capel Prenteg oddeutu 100 mlynedd yn ôl a gwelwyd llu o enwau fel: y Parch Morgan Griffith, Pwllheli; Tom Nefyn; tad T H Parry Williams; a thad Dafydd Ellis Tomos. Rhain i gyd wedi arwyddo llyfr yr eneth fach ac wedi sgwennu pwt. Aeth Helen ymlaen i sôn am gyfnod Porthmadog a Llundain wedyn. Doniol oedd gweld fod ei mam yng nghyfraith ymysg yr enwau cyn bod hanes am Aled!Y Coliseum oedd pwnc Ifanwy Williams. Cafodd ddau docyn rhodd i fynd i weld Premier y ffilm First Knight. Dr Carl Clowes oedd ei dewis a chafwyd hanes y noson arbennig hon. Trwm oedd calon Ifanwy gan feddwl hanes y Coliseum heddiw. Dewisiodd Rowena Griffith nifer o bytiau newyddion o’r Cymro yn ystod y 100 mlynedd diwetha ‘ma. Daeth storm a dilyw Dinas Mawd-dwy 1953 yn fyw iawn i ni a chafwyd hanes y ddihangfa gyfyng ar y Bull-doser! Hanes manwl am ei dau daid gawsom gan Cathy Jones, y rhai a fu’n cerdded i’w gwaith fel chwarelwyr o’u gartref yn Nant Dwr Oer i Nantmor, Croesor a thros y mynydd heibio Chwarel y Rhosydd ac i lawr at Chwarel y Wrysgan yn Nhanygrisiau ar lwybrau mwdlyd ac ymhob tywydd. Taith o ddwy awr a hanner pur debyg. Ac ar ôl cyrraedd y chwarel ‘roedd angen gwneud diwrnod o waith llafu-rus. Caledi yn wir.Hanes ei yrfa gawsom gan Evie Lloyd. Pan oedd o yn dechrau gweithio roedd 126 yn gyflogedig yng ngorsaf Porthmadog. Dechreuodd yntau fel Portar gan godi i fyny fel Dyn Signal. Roedd cryn gyfrifoldeb ynglyn â’r swydd hon, yn enwedig i fachgen ifanc. Mwynhawyd 30 mlynedd yn gwneud hyn, gan weithio fel Gard wedyn am 20 arall. Bu’n amlwg iawn yn y frwydr i gadw’r lein ar agor yn nyddiau Beeching.Llywyddwyd gan J Parry a diolchodd i’r aelodau am ddod a straeon mor ddifyr i’n sylw. Cafwyd neges o ymddiheuriad gan y Parch Christopher Prew, gan ei fod efo’r mab yn yr ysbyty. Adferiad buan Ellis.
Sefydliad y Merched
NOS LUN, 7 Mawrth, cafwyd cyfar-fod i ddathlu Gwyl Dewi Sant yn y Ganolfan.Rhoddwyd croeso arbennig i’r ddwy lywydd, Eifiona Williams a Mavis Jones, oedd wedi bod yn absennol oherwydd gwaeledd. Wedi canu pennill Cymraeg — Jeriwsalem — aeth Eifiona ymlaen gyda’r materion yn codi o’r llythyr misol. Bydd cyfle i’r aelodau gael sesiynau ar drin iPad neu fynd i Blas Tan y Blwch i ddilyn cyrsiau difyr. Bydd Mavis yn mynd ymlaen i drefnu’r trip ym mis Mehefin. Uchelbwynt y noson oedd cael gwrando ar ddoniau cerddorol ein gwesteion, Geraint Roberts bariton a’i gyfeilyddes fedrus Alwena Morgan.Cawsom ein swyno gan eu rhaglen o ganeuon Cymraeg - hen a newydd.Roedd y baned yng ngofal Elspeth, Gwyneth Jones a Meryl. Cyfarfod nesaf ar 4 Ebrill, gyda Anwen, o Archifydd Caernarfon.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.