Merched y Wawr

PA FFORDD well i ddathlu mis ein Nawddsant na chael amrywiaeth o eitemau yn adlewyrchu ein diwylliant — a hynny yng ngh-hwmni nifer dda o ddysgwyr. Felly y bu ein cyfarfod diwethaf. Yn dilyn trafodaeth ynglyn â materion y gangen dan lywyddiaeth Gwen Rees Jones, mwynhad pur oedd gwrando ar wraig ifanc, Erica Roberts yn adrodd ei hanes. Magwyd Erica yn y Wladfa, ond bellach mae’n byw efo’i theulu yn Nhremadog. Tywysodd ni ar ei thaith o Drefelin i Drema-dog a soniodd am ei phrofiadau wrth ddysgu’r Gymraeg, gan mai Sbaeneg oedd ei mamiaith. Daeth â rhai o draddodiadau’r Wladfa’n fyw i ni wrth iddi ddangos ambell i beth fel ponsho a theclyn gwneud mate. Mae ganddi hi ffordd fyrlymus, gartrefol ac annwyl o sgwrsio mewn Cymraeg cyhyrog, wedi ei nodweddu gan acenion hyfryd y Wlad-fa. Profiad gwefreiddiol oedd gwrando arni.Dilynwyd y sgwrs gan adroddiad a gyflwyn-wyd gan wraig o Siapan yn wreiddiol, sy’n byw erbyn hyn ym Morthygest. “A Gymri di Gymru?” oedd dewis Mayumi Thomas — cerdd diddorol o waith Robat Gruffydd sy’n pigo’r cydwybod, ac adroddodd hi’n deimladwy iawn gydag arddeliad. Mae’n amlwg bod Mayumi yn ymroi i ddysgu’r iaith. Dilynwyd Mayumi gan Eric Huckvale sy’n byw ym Morfa Bychan ac yn ddysgwr brwd. Cafwyd datganiad ar y delyn ganddo a mwynhawyd ei gyfraniad yn fawr.Wedyn bu na dipyn o sgwrsio dros baned a chyfle i’r dysgwyr ymarfer eu Cymraeg.Diolchwyd yn gynnes i bawb gan Rowenna am noson hapus a buddiol.