Merched y Wawr

AR NOSON braf o wanwyn, yn y ganolfan yn ôl ein harfer, cynhali-wyd cyfarfod mis Ebrill o’r gangen.Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan ein llywydd, Rhiannon Davies, ac anfonodd ein cofion at rai o’r aelodau oedd yn methu a bod yn bresennol.Croesawodd hefyd Helen Ellis a Catherin Jones atom o gangen Penrhyndeudraeth.Roeddent hwy eu dwy wedi dod i gyfri y pleidleisiau gan ei bod yn amser ethol pwyllgor ar gyfer tymor newydd fydd yn cychwyn yn yr hydref.Etholwyd: Myalomi, Nia, Kath-ryn, Margaret H, Meryl, Gwen PJ, Rhiannon W, Dora a Susan.Yna, ar ôl ymdrin â’r materion rhanbarthol a chenedlaethol, aeth y llywydd ymlaen i groesawu a chyflwyno ein gwr gwadd, sef y Prifardd Guto Dafydd.Cawsom noson hynod o ddifyr yn ei gwmni yn olrhain y trywydd a ddewisodd o gyfnod ei arddegau cynnar i fod yn fardd a’r hyn a fu yn symbyliad ac ysbrydoliaeth iddo wrth greu.Yn ogystal olrheiniodd beth o hanes y traddodiad barddol Cym-raeg o’r Canol Oesoedd hyd heddiw ac fel y bu astudio’r cynnyrch hwnnw feithrin ynddo syniadaeth i’w efelychu mewn dulliau cyfoes. Soniodd fel y bu i feirdd ar hyd yr oesau ddylanwadu ar eu cyf-nod a dangosodd fel y bu i rai fel Gerallt Lloyd Owen drwy ei waith ysbrydoli’r Cymry i brotestio ac i fod yn ymwybodol o’u dyletswydd tuag at eu hiaith a’u cenedl.Daethai ag un o’i goronau eisteddfodol i’w ganlyn ac ar ôl trafod ei gwneuthiriad caed cyfle i rai adelodau afael ynddi.Yn wir bu i rai hyd yn oed ei gwisgo.Yr un pryd darllenodd nifer o’i gerddi, gan roi y cefndir i bob un ohonynt ac yr oedd hynny yn sicr yn ychwanegu at ein mwynhad a’n dealltwriaeth o’i waith.Noson ddifyr yn llawn hiwmor, ond eto yn un a roddai inni ddigon i gnoi cil arno.Cymysgfa ardderchog o ddi-grifwch a difrifwch.Diolchwyd yn effeithiol iawn iddo gan Vera, ein hysgrifenyddes, hithau wedi ei geni a’i magu yn Nhrefor ac yn adnabod aelodau teulu Gerallt yn dda.Rhoddwyd y raffl gan Gill a Rhiannon Davies ac fe’i henillwyd gan Carol.Caed panaid ar derfyn y noson – diolch i’r merched am ei pharatoi.Yn glo ar y gweithgareddau bu inni ganu Anthem y Mudiad.