MAE dau o hen ffrindiau Ysgol Gymraeg Aberystwyth wedi cael eu haduno mewn rhaglen arbennig.

Mae Arfon Haines Davies wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar setiau teledu’r Cymry ers ei ddyddiau fel cyflwynydd HTV yn y 70au.

Ond er yn hen gyfarwydd â bod o flaen camera, pa mor gyfforddus fydd Arfon o flaen llygad artist?

Bob wythnos, mae Cymry ar Gynfas yn dod ag un artist ac un wyneb adnabyddus at ei gilydd i greu portread unigryw.

Yn ogystal â’r campwaith sy’n cael ei ddatgelu ar ddiwedd y rhaglen, cawn bortread gonest ac agored o’r artist a’r person enwog wrth iddynt sôn am eu profiadau o ddarlunio a chael eu darlunio.

John Rowlands, yr artist cyfrwng cymysg â stiwdio yn Nhremadog, sydd wedi derbyn yr her o ddarlunio Arfon Haines Davies.

Er ei fod wedi ymddeol o fyd arlunio i bob pwrpas, roedd y cyfle i greu portread o Arfon yn rhy dda i’w wrthod â hwythau’n nabod ei gilydd ers dyddiau’r ysgol.

“Roedd cyfarfod John yn brofiad rhyfedd. Dwi’m ‘di weld o ers rhyw ddeugain mlynedd. A nath o dynnu wyneb, rhyw ystumiau, a dyna’r union ystumiau odd o’n tynnu yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn saith, wyth oed,” meddai Arfon.

Yn ei waith, mae John Rowlands yn mwynhau arbrofi rhwng celf realistig, celf haniaethol (neu’r abstract), a’r lled-haniaethol sydd yn eistedd rhywle rhwng y ddau begwn.

Ond, mae Arfon Haines Davies yn cyfaddef, er ei fod yn mwynhau ymweld ag orielau celf, nid yw’n or-hoff o weithiau haniaethol: “Mae cael portread gan artist haniaethol yn achosi tipyn bach o ofn arna i.

“Dwi’m yn gwybod os fydd y llun yn un Picasso-aidd, gyda fy nhrwyn yn dod allan o fy moch, ac un llygad ar fy nhalcen... Ella fydd o’n welliant, pwy a ?yr!”

Ar ôl eu haduniad yn Aberystwyth, yn hel atgofion ac yn ail-ymweld â’u hen ysgol, mae John yn dychwelyd i’w stiwdio i ddechrau ar y portread.

“Wrth wneud y llun, beth ‘wi ‘di neud yw cyfuno’r busnes haniaethol, lled-haniaethol, a’r realistig.

“Felly’n gwneud yn si?r bod fi’n neud fy ngore i gael tebygrwydd.

“Ond o’n i ishe hefyd dod fewn â pixelation ‘ma, a rhywbeth i neud gyda’r busnes teledu, sgrîn, pwy yw’r Arfon tu ôl y sgrîn – os chi ishe bod yn farddonol amdano fe,” meddai John.

“Dechreuais i ffwrdd efo gwên fach, ond ar ôl neud y llygaid a’r trwyn, es i at y llun lle odd y wên yn llawer mwy agored.

“Mae un o’i ddannedd e, lle o’n i wedi rhwbio’r glesni i ffwrdd, wedi gadael sbarc bach: Arfon Haines Davies, Arfon ‘High-definition Dannedd’, bang! Na’r peth gore am y llun.”

Gyda’r dadorchuddio’n digwydd wythnosau’n ddiweddarach ar Reilffordd Cwm Rheidol, ydy John wedi llwyddo i gyfuno elfennau haniaethol â’r wên enwog? A beth fydd ymateb Arfon i’w bortread unigryw? Mae’r cyfan i’w gweld ym mhennod nesaf Cymry ar Gynfas.

Eto i ddod yn y gyfres, bydd yr actor Sharon Morgan yn cael ei darlunio gan Teresa Jenellen; y cerddor Mei Gwynedd gan Steffan Dafydd; y cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies gan Meuryn Hughes; a’r perfformiwr amryddawn Carys Eleri gan Aron Evans.

Mae’r bennod gyntaf, sef Liz Saville Roberts AS a Lowri Davies, ar gael ar S4C Clic.

Cymry ar Gynfas, Nos Lun, 7 Chwefror 8yh, S4C, Isdeitlau Saesneg Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Wildflame ar gyfer S4C.