Pa gyfrol arall sy’n gallu dod â Cynan a Joe Calzaghe at ei gilydd?

Meddylwch am y cwmni hwn – Gwynfor Evans, Elin Jones (Llywydd y Senedd), Jâms Nicolas y cyn-Archdderwydd, Osian Ellis y telynor – a Nigel Farage!

Y llinyn cyswllt rhyngddynt yw bod prif artist portreadau Cymru – David Griffiths – wedi creu lluniau ohonynt. Cyhoeddir copïau o’r portreadau yn y gyfrol ond yr hyn sy’n dod â’r cyfan yn fyw yw storïau David am yr enwogion sydd wedi eistedd o flaen ei frwsh a’i gynfas.

“Mae gan David gof anhygoel am anecdotau sy’n dangos ochr ddynol a bywyd bob dydd testunau ei bortreadau,” meddai Arfon Haines Davies, golygydd y gyfrol.

“Mae’n cynnwys hanes ei blentyndod a’i brofiadau cynnar fel artist hefyd.

Bomiau Hitler a yrrodd teulu’r David Griffiths ifanc o lannau Merswy i fyw ym Mhwllheli.

Hynny a’i gwnaeth yn arlunydd wrth iddo dderbyn arweiniad gan Elis Gwyn, ei athro yn yr Ysgol Ramadeg yno.”

Ymysg ei straeon, mae hon am un o’i gomisiynau cynnar, sef creu portread o Cynan.

“Cefais groeso gwresog gan Cynan a Mrs Jones cyn iddi esgusodi ei hun i fynd i baratoi cinio…

“Treuliais ychydig amser yn braslunio ac yn tynnu lluniau gyda fy nghamera. Y peth nesaf a wyddwn oedd bod Mrs Jones yn rhedeg i mewn i’r stafell yn hynod o ypsét. ’Dwi wedi llosgi’r cinio!’ meddai. ‘Y pryd cyntaf i mi baratoi iddo ... dwi wedi llosgi cinio Cynan!’”

“Teimlais ei bod hi’n amser i mi wneud fy esgusodion a gadael!’

Meddai’r awdur wrth weld y gyfrol yn cael ei chyhoeddi: “Mae’r llyfr yma wedi bod yn llwyfan gwerthfawr iawn i mi rannu atgofion personol arno.”

Mae’n gyfrol sy’n rhoi boddhad wrth weld cynifer o enghreifftiau ynddi o ddawn y portreadwr. Mae hefyd yn codi cwr y llen ar fywyd artist – ei addysg, ei fentrau masnachol wrth sefydlu orielau, a’r troeon ffawd rhyfeddol a ddaeth â chomisiynau annisgwyl i’w ran.

Ym mhennod olaf y gyfrol mae portreadau annwyl iawn o rieni David, a dau grefftwr clên yr oeddd yn dotio at eu gwaith.

A’r stori honno am Farage? Rhaid ichi ddarllen y gyfrol – ond mae rhywbeth i’w wneud gydag ymgais i brynu’r portread er mwyn ei losgi!

Mae Hunanbortread ar werth ym mhob siop lyfrau Cymraeg annibynnol, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com.