Urdd y Benywod Capel Pantydefaid

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Urdd y Benywod, Capel Pantydefaid ar nos Wener, 18 Medi.

Ymaelododd 30 o wragedd eleni ac mae’r gangen yn bodoli ers deuddeg a 92.

Y swyddogion etholedig am eleni yw: llywydd, Hefina Davies; is-lywydd, Delyth Evans; trysorydd, Mary Williams, Wilks Head; Ysgrifennydd, Ann Jones; Ysgrifennydd cofnodion, Rowena Davies Franklin; a Gohebydd y Wasg, Barbara Davies.

Yn ein cyfarfod cyntaf cawsom noson diddorol ac addysgiadol yng nghwmni Cathy Wootres. Bu’n sôn am Iridology, sef un o’r ffyrdd y gellir dadansoddi anhwylderau’r corff trwy edrych ar y llygaid.

Ar y 25ain cawsom noson dan ofal Alan Jones yn dangos DVD o waith y Parch Alun Wyn Dafis yn dilyn hanes cyhoeddi’r Perlau Moliant Newydd.

Yn ogystal gwelsom ddarllediad o Dechrau Canu Dechrau Canmol o Gapel Brondeifi yn 1998.

Diddorol oedd gweld plant yn y gynulleidfa a’u cymharu â’r oedolion ydynt heddiw.

Noson o ‘Sugar & Spice’ gafwyd ar yr 2 Hydref wedi eu drefnu gan Ann Jones.

Y dasg oedd adnabod 30 o wahanol berlysiau a sbeisys trwy arsylwi arnynt a’u arogli – heb eu blasu, wrth gwrs! Rhannwyd y wobr gyntaf rhwng Maud Evans a Betty Evans.

Yr wythnos canlynol croesawyd pawb i ginio tri chwrs gan Hefina Davies ein llywydd. (Mae Hefina yn llywydd Urdd y Benywod Ceredigion hefyd). Paratowyd yr arlwy gan Ann Jones ac fel arfer roedd y bwyd yn fendigedig – cystal, os nad gwell, ag unrhyw wledd a gaech mewn gwesty neu fwyty.

Ein siaradwr gwadd oedd Gethin Richards, sydd ar hyn o bryd yn ddirprwy prifathro yn Ysgol Gynradd Cilgerran. Siaradodd am ei gysylltiad â Chapel Pantydefaid a chysylltiad ei deulu â’r enwad ers pum cenhedlaeth. Cafwyd ambell i stori diddorol a doniol o’i brofiadau fel athro.

Talwyd y diolchiadau gan Mary Williams, Wilkes Head.

Dywedwyd gras o flaen bwyd gan ein gweinidog parchus, Wyn Thomas, ac ar y diwedd diolchodd am y wledd. Mynegodd hefyd ei werthfawrogiad o’r caredigrwydd a ddangoswyd iddo yn ystod y flwyddyn aeth heibio.