Ala Road

MORNING worship at the English Presbyte-rian Church this coming Sunday, 17 January, will be led by Rev W Bryn Williams. The service starts at 11.15am and a warm wel-come is extended to all.At 5pm there will be an united service at St Joseph’s. On Friday, 22 January, a bilingual service for Christian Unity will be held at Ala Road at 10am.

Clwb y Bont

CAFWYD noson ddifyr iawn i gychwyn y flwyddyn yng nghwmni’r Aelod Seneddol leol, Liz Saville, Morfa Nefyn. Cyflwynwyd a chroesawyd hi gan Alun Jones, llywydd y noson.Dechreuodd Liz ei sgwrs drwy gyfeirio at brysurdeb y chwe mis cyntaf yn ei swydd â’r gamp o geisio cadw cydbwysedd rhwng teulu, gwaith a theithio.Soniodd wedyn at y profiad unigryw o ddod i ddeall gweithrediadau a thraddodiadau’r Ty Cyffredin, a sut y gelli sicrhau effeithiolrwydd aelod o fewn y gyfundrefn yma. Disgrifiodd y broses o sicrhau sedd pan fo’r siambr yn llawn â’r ymdrech i gael rhywfaint o’r Gymraeg i’r trafodaethau. Dywedodd bod yn flwyddyn i ddod am fod yn hynod brysur gyda Mesur Cymru a Datblygiadau S4C yn flaenllaw – ei nod personol hi, meddai fydd gwneud pob ymdrechi sicrhau swyddi o safon yn ei hetholaeth. Diolchwyd yn gynnes iddi am roi o’i hamser a rhannu ei phrofidadau gyda’r clwb.

Christian Unity

BYDD yr Wythnos Weddi am Undeb Crist-nogol yn dechrau gydag oedfa undebol yn Eglwys Sant Joseff nos Sul, 17 Ionawr, am 5yh. The week of prayer for Christian Unity starts with a service at St Joseph’s Church on Sunday, 17 January, at 5pm. Two further services will be held during the week: Tuesday, 19 January, Welsh service at Penlan Chapel; and Friday, 22 January, at 10am, bilingual service at Ala Road.

Cylch Cyfeillion

ROEDD yr aelodau i gyd yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn ar ddydd Llun, 4 Ionawr, ac yn barod iawn i gyfarfod ei gilydd ar ôl gwyliau’r Nadolig er nad oedd y tywydd yn ffafriol iawn.I ddathlu dechrau’r flwyddyn newydd roedd Gwyndaf ac Eirlys wedi paratoi pryd o fwyd a chafwyd prynhawn cartrefol, hapus iawn gan pawb.Enillwyd gwobr y raffl gan Jean Roberts, Y Ffôr.Penderfynwyd bod pawb yn creu’r pwyllgor i drafod popeth sydd i ddigwydd yn y cylch gyda Gwyndaf ac Eirlys Davies, Dinas; Moira Mahoney, Llanbedrog; a Jean Roberts, Y Ffôr yn brif swyddogion. Diolchwyd i bawb sydd yn cefnogi’r cylch ar hyd y flwyddyn gan ei gwneud yn bosibl i gynnal cyfarfodydd yn wythnosol.Diolchwyd yn gyffredinol ar ran pawb gan gan Garry Jones, Gwynant, Mynytho.Mae dyddiad y cyfarfiod nesaf i’w drefnu.Capel y DrindodDYDD Gwener, 15 Ionawr: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.Dydd Sul, 17 Ionawr: 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y gweinidog. Ysgolion Sul fel arfer.Dydd Llun, 18 Ionawr: 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi’r Ofalaeth.Dydd Mawrth, 19 Ionawr: 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.Dydd Mercher, 20 Ionawr: 7yh, Clwb Ieuenctid. Oedfaon/ServicesST JOSEPH’S: Friday, 3.30pm, Evening Prayer; Saturday, 6.30pm, Offeren (Welsh Mass); Sunday, 11am, Mass; 5pm, United service for Christian Unity.St Peter’s: Sunday, 11am, Eucharist/Of-feren; 5pm, United at St Joseph’s; Wednesday, 10.30am, Eucharist.Capel Seion: 10yb, y Parch A Meirion Roberts; 5yh, Unedig yn Sant Joseff.Capel Penlan: 5yh, Unedig yn Sant Joseff.