Aelwyd Chwiorydd

CAFWYD pnawn difyr o ‘Frethyn Cartref’ mewn cyfarfod o Aelwyd Chwiorydd y Drindod ddydd Llun, 11 Ionawr.Llywyddwyd a chroesawyd pawb gan Christine Jones.Hi hefyd arweiniodd y defosiwn dechreuol. Darllenodd y trysorydd lythyrau o ddiolch oddi wrth gofalwyr y Capel a Cymorth Cristnogol am y rhoddion a gafwyd gan y Chwiorydd.Cadarnhaodd hefyd fod cyfanswm y Ffair Nadolig erbyn hyn yn £900. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.Yna cafwyd sgwrs ddifyr gan Gwyneth Roberts am ei diddordeb mewn gwau, a dangosodd esiamplau o’i gwaith - Sali Mali ac ati.Dilynwyd hi gan Rhiannon Hughes oedd wedi dod â chasgliad o hen luniau o’r dref, yn cynnwys llun o Eisteddfod 1955 ym Mhwllheli. Roedd Lydia Jones hefyd wedi dod â llun, ond llun wedi ei wneud o ddarnau jigso oedd hwn.Eglurodd bod y llun gwreiddiol, oedd ar ei haelwyd gan aelod arall o’r teulu, a hithau wedi digwydd gweld y pôs jigso.Jean Williams oedd yr olaf i siarad a chafwyd atgofion hyfryd o’i phlentyndod ganddi.Diweddyd y pnawn gyda phaned dan ofal Morfydd Roberts a Cath-erine Hefina Jones a diolchwyd i bawb gan y llywydd.

Gymdeithas Ddiwylliannol

Y SIARADWR gwadd mewn cyfarfod o Gymdeithas Ddiwylliannol Y Drindod nos Iau, 14 Ionawr, oedd Yr Hybarch Andrew Jones, Llanbedrog.Croesawyd ef yn gynnes gan y Parch Arthur Meirion Roberts.Cafwyd sgwrs ddiddorol ac addysgiadol dan y teitl ‘Mair, mam yr Iesu’ gan y gwr gwadd. Eglurodd mai dim ond 11 gwaith mae sôn am Mair yn y Beibl er ei bod yn berson hynod o bwysig. Dywedodd ei fod wedi cyhoeddi llyfr yn Saesneg am Mair yn ddiweddar a’i fod yn gobeithio cyhoeddi darnau helaeth ohono yn y Gymraeg yn fuan.Mawr fwynhawyd y sgwrs gan bawb a diolchwyd ar eu rhan gan yn gweinidog, y Parch W Bryn Williams.Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Wener, 5 Chwefror pryd y disgwylir yr hanesydd John Dilwyn Williams yn wr gwadd.

Ala Road

MORNING worship at the English Presbyterian church, this Sunday, 24 January, will be led by Rev Ioan Wyn Gruffydd, Pwllheli. The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.Chwiorydd PenlanCYNHELIR cyfarfod nesaf Cym-deithas Chwiorydd Penlan bnawn Llun, 1 Chwefror am 2yp.Edrychir ymlan am ‘Sgwrs, Llun a Chân’ gyda Glenys a Gwenan yn sôn am eu taith i Batagonia. Mae croeso i unrhyw un ymuno yn y cyfarfod.

Oedfaon/Services

ST JOSEPH’S: Friday, 3.30pm, evening prayer; Saturday, Offeren (Welsh Mass); Sunday, 11am, Mass. St Peter’s: Sunday, 11am, morning prayer/boreol weddi; Wednes-day, 10.30am, Eucharist.Capel Seion: 10yb, Parch Edmund Owen, Porthmadog.Capel Penlan: 2yp, Parch Dewi Lewis, Talsarnau.

Capel y Drindod

GWENER, 22 Ionawr: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol yn Festri’r Ala.

Sul, 24 Ionawr: 10yb a 5yh, oedfaon yng ngofal y Parch Ioan W Gruffydd. Ysgolion Sul fel arfer.Llun, 25 Ionawr: 2yh, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi’r Ofalaeth.Mercher, 27 Ionawr: 7yh, Clwb Ieuenctid.