Cyngerdd

MAE’R TREFNIADAU bellach wedi eu cwblhau ar gyfer Cyngerdd Blynyddol Band Pwllheli.Cynhelir y cyngerdd yn Neuadd Dwyfor nos Gwener, 5 Chwefror, am 7yh. Yn ogystal â’r band, cymerir rhan hefyd gan Aelwyd Chwilog ac Ysgol Gynradd Chwilog. Mae’r tocynnau ar gael o’r neuadd.

Ala Road

MORNING worship at the English Presbyterian Church, Ala Road, this Sunday, 7 February, will be led by Rev W Bryn Williams. The service starts at 11.15am.

Aelwyd Chwiorydd

ROEDD cyfarfod o Aelwyd Chwiorydd y Drindod brynhawn Llun, 25 Ionawr, dan ofal y llywydd, Eirlys Jones. Ar ôl croesawu’r aelodau a’r defosiwn dechreuol cyfeiriodd at y Santes Dwynwen, santes cariadon Cymru, gan ei bod yn achlysur dathlu’r Santes y diwrnod hwnnw.Yna, cafwyd cwis wedi ei baratoi gan y llywydd a rhannwyd yr aelodau i ddau dîm. Roedd y cwestiynnau yn amrywio o sêr pop a theledu i emynau a’r Beibl. Diwed-dwyd y prynhawn gyda phaned dan ofal Christine Jones.

Services/Oedfaon

ST JOSEPH’S: Friday, 3.30pm, Evening Prayer; Saturday, 6.30pm, Offeren (Welsh Mass); Sunday, 11am, Mass.St Peter’s: Sunday, 11am, Eucharist/Offeren; 4yh, Gosber; Wednesday, 10.30am, Eucharist.Capel Seion: 10yb, y Parch Gwyn C Thomas.Capel Penlan: 5yh, y Parch Glenys Jones.

Capel y Drindod

DYDD Gwener, 5 Chwefror: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol; 7yh, Cymdeithas Ddiwyl-liannol.Dydd Sul, 7 Chwefror: 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 7yh, Oedfa o Fawl yn Ebeneser, Y Ffôr.Dydd Llun, 8 Chwefror: 2yh, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi’r Ofalaeth.Dydd Mercher, 10 Chwefror: 7yh, Clwb Ieuenctid.