Clwb y Bont

Y GWR gwadd mewn cyfarfod o’r clwb ar nos Lun, 1 Chwefror, oedd y Parch Huw John Huws, Porthaethwy. Cyflwynwyd ef gan Elfed Gruffydd, llywydd y noson, fel gweini-dog, cyn ddarlithydd a sefydlydd Pili Palas, Môn.Byrdwn sgwrs y Parch Huws oedd ‘Deuoliaeth Bywyd - y llon a’r lleddf, y chwerw a’r melys’, ac yn gelfydd a diddorol disgrifiodd dair sefyllfa o’i fywyd i ddehongli hyn.Y cyntaf oedd profiad annymunol fel dyfarnwr pêl-droed ifanc yn wynebu cefnogwyr digllon. Yr ail oedd y profiad ysgytwol o gael ei arestio ar Y Gogarth pan yn chwilio am wyfyn arbennig. Yn olaf cyfeiriodd at sefyllfa ryfeddol mewn ysbyty pan alwyd arno i fedyddio merch fach newydd anedig heb fawr obaith iddi, ac iddi gael adferiad llwyr yn dilyn hynny.Diolchwyd gan Myrddin Owen.Ala RoadMORNING worship at the English Presbyterian Church this Sunday, 14 February, will be led by Rev Arthur Meirion Roberts. The service starts at 11.15am.A warm welcome is extended to all.

Aelwyd Chwiorydd

THEMA cyfarfod Aelwyd Chwiorydd Y Drindod nos Fawrth, 2 Chwefror, oedd ‘Gwisgwch ferch o gwmpas y byd’, sef cynllun Adran y Chwiorydd i greu ffrog neu siorts allan o gas cobennydd neu unrhyw ddefnydd sbâr. Roedd y festri yn debycach i weithdy Laura Ashley dan ofal Mair Williams ac Ann Hughes a phawb yn brysur iawn.

Arweinwyd y defosiwn dechreuol gan Jane Lloyd ac anfon-wyd cofion at Elinor Rhys Williams sydd yn yr ysbyty. Mwynhawyd paned ar ôl y llafur.

Y Garawys

GYDOL wythnosau’r Garawys cynhelir cyfarfodydd unedig bob nos Lun ym mhob un o eglwysi’r dref yn eu tro. Y thema yw ‘Myfi yw...’ (o Efengyl Ioan).Bydd y cyfarfod cyntaf, yn Gymraeg, ar nos Lun, 15 Chwefror, am 7.30yh yng Nghapel Penlan dan y teitl ‘Myfi yw Drws y Defaid’.

Services/Oedfaon

ST JOSEPH’S: Friday, 3.30pm, Evening Prayer; Saturday, 6.30pm, Offeren (Welsh Mass); Sunday, 11am, Mass.St Peter’s: Sunday, 11am, Morning Prayer/Boreol Weddi; Wednesday, 10.30am, Eucharist.Capel Seion: 10yb, y Parch Angharad Roberts, Trefor.Capel Penlan: 5yh, Dewi Jones, Pwllheli.

Cymdeithas

Y SIARADWR gwadd mewn cyfarfod o Gymdeithas Ddiwylliannol y Drindod nos Wener, 5 Chwefror, oedd gwr wedi ei fagu yn lleol ym Mhentreuchaf, sef John Dilwyn Williams.Bu’n sgwrsio yn y gymdeithas sawl gwaith o’r blaen, ond y tro hwn canolbwyntiodd ar ei deulu ac yn arbennig hen daid iddo a oedd wedi mynd i’r Unol Dalieithau i weithio yn ystod y 18fed ganrif. Gyda chymorth sleidiau a nifer o lythyrau wedi eu hysgrifennu ganddo at ei deulu, cafwyd sgwrs hynod o ddifyr a darlun o sut oedd bywyd bachgen ifanc yn yr America bryd hynny.Croesawyd a diolchwyd yn gynnes i John Dilwyn gan Harry Noel Williams, llywydd y noson.Bydd y cyfarfod nesaf nos Wener, 12 Chwefror, am 7yh pryd y ceir sgwrs am arddio gan Eurwyn Roberts.

Crynwyr

MAE CRYNWYR Pwllheli yn cyfarfod yn festri Capel y Drindod ar y Sul cyntaf o bob mis am 11.30yb a’r phedwerydd nos Iau y mis am 7.30yh. Croeso cynnes i bawb.

Capel y Drindod

DYDD Gwener, 12 Chwefror: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol; 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.Dydd Sul, 14 Chwefror: 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y Parch Arthur Meirion Roberts. Ysgolion Sul fel arfer.Dydd Llun, 15 Chwefror: 7.30yh, Oedfa Undebol y Grawys yng Nghapel Penlan.

Dydd Mawrth, 16 Chwefror: 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.

Army Cadets Visit

MEMBERS of the 1st The Queen’s Dragoon Guards (The Welsh Cavalry) took time out from their tour of north Wales to visit Pwllheli Army Cadets. The cavalry brought with them equipment and vehicles used by the Army in Afghanistan. Vehicles included RWMIK Land Rovers, a Jackal and a Panther.