Ala Road

MORNING worship at the English Presbyterian church this coming Sunday, 13 March, will be led Rev Malcolm Daley.The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.

Oedfaon/Services

ST JOSEPH’S: Friday, 3.30pm, evening prayer; Saturday, 6.30pm, Offeren (Welsh Mass); Sunday, 11am, Mass. St Peter’s: Sunday, 11am, morning prayer/ boreol weddi; Wednesday, 10.30am, Eucharist. Capel Seion: 10yb, Parch Robin W Griffith, Llangybi.Capel Penlan: 5yh, Parch Gareth Edwards, Cyffordd Llandudno.

Aelwyd Chwiorydd

DATHLWYD Gwyl Ddewi mewn cyfarfod o Aelwyd yr Hwyr Capel y Drindod nos Fawrth, 1 Mawrth.Llywyddwyd a chroesawyd pawb gan Morfydd Roberts ac arweinwyd y defosiwn dechreuol gan Mair Williams, gyda phawb yn ymuno i ganu Finlandia. Cyflwynwyd y fantolen ariannol.Gwr gwadd y noson oedd Elfed Gruffydd. Ei bwnc oedd Enwau Caeau a phwysleisiodd y pwysigrwydd o’u rhoi a’r gof a chadw, fel Brychan Llyr. Roedd yn sgwrs ddiddorol dros ben, gydag eglurhad ar nifer o’r enwau. I gloi’r dathlu mwyn-hawyd teisen gri a chrempogngyda phaned.Yn ystod y cyfarfod galwodd y ffotograffydd, Dewi Wyn heibio i dynnu lluniau o’r ffrogiau a luniwyd gan yr aelodau, dan arweiniad Ann Hughes a Mair Williams, mewn cyfarfod o’r Aelwyd ddechrau Chwefror dan ymgyrch ‘Dress a Girl Around the World’. Llwyddwyd i wneud 30 o ffrogiau ac edrychir ymlaen i weld y lluniau.

Cylch Cyfeillion

BU AELODAU’R Cylch yn dathlu Gwyl Ddewi ddydd Llun, 29 Chwefror yn Nhafarn Bryn Cynan, Morfa Nefyn. Cawsant groeso arbennig gan Gina Moore a Daniel Davies a mwynhawyd pryd bwyd at flas pawb, mewn awyrgych gartrefol, cynnes. Treuliwyd gweddill y pnawn yn sgwrsio a chodwyd testunau amserol, gyda barn ddifyr rhai o’r aelodau. Diolchwyd i bawb am gymryd rhan mor barod heb baratoi am y sgwrs gan Eirlys Davies. Trefnwyd y cludiant am y pnawn gan Gwyn-daf ac Eirlys Davies.Cydymdeimlwyd a Gwyndaf sydd wedi colli ei fam, sef Mary Davies, gynt o Gefn Madryn, Dinas a Glan y Don, Morfa Nefyn ac yn ddiweddar o Gartref Nyrsio Plas Gwyn, Pentrefelin. Cafodd yno ofal arbennig iawn a hithau’n mwynhau ei phenblwydd yn 99 yn Hydref 2015.GarawysTHEMA cyfarfod undebol cyfres Y Garawys ar nos Lun, 14 Mawrth, fydd ‘Myfi yw’r Atgyfodiad a’r Bywyd’ o Efengyl Ioan. Cynhelir y cyfarfod Cymraeg yng Nghapel y Drindod a dechreuir am 7yh. Croeso cynnes i bawb.

Capel y Drindod

DDYDD Gwener, 11 Mawrth: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.Ddydd Sul, 13 Mawrth: 10yb a 5yh, oedfaon yng ngofal y Parch Glenys Jones. Ysgolion Sul fel arfer.Ddydd Llun, 14 Mawrth: 6yh, clwb y plant; 7.30yh, oedfa Unde-bol y Grawys.Ddydd Mawrth, 15 Mawrth: 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.Ddydd Mercher, 16 Mawrth: 7yh, Clwb Ieuenctid.