Clwb y Bont
CYFLWYNODD Myrddin Owen, llywydd y noson, ei gyfaill a’i gyd-aelod o barti Hogia’r Wyddfa, sef Arwel Jones, fel y siaradwr gwadd ar gyfer noson dathlu Gwyl Ddewi y clwb.Testun sgwrs Arwel Jones oedd pêl-droed gan bwysleisio ar gyfraniad y gamp i fywyd y gymdeithas Gymraeg yng nghymunedau Gogledd Cymru. Rhoddodd sylw arbennig i dimau Llanberis lle bu’n chwaraewr a lle mae’n dal yn gefnogwr brwd.Credai bod pedair agwedd i’r cyfraniad yma. Roedd yn gyfrwng i wneud ffrindiau, a soniodd am ffrindiau oes a wnaeth drwy’r gêm.Roedd yn fodd i wasgar gwahaniaethau dosbarth, gan fod pawb ar yr un lefel ar y cae. Roedd pêl-droed yn cydfyw gyda’r cymdeithasau eraill, yn grefyddol neu ddiwylliannol a fodolai. Roedd hefyd yn fagwrfa i gymeriadau lliwgar yn y fro. Agweddau, teimlai Arwel Jones, a fyddai wrth fodd Dewi Sant a’i anogaeth i wneud y ‘Pethau Bychain’. Diolchwyd yn gynnes iddo gan Dewi Rhys.
Cymdeithas Ddiwylliannol y Drindod
CYNHALIWYD cyfarfod olaf y tymor o’r gymdeithas nos Wener, 4 Mawrth, pryd y dathlwyd Gwyl Ddewi.Mwynhaodd pawb wledd o gawl cennin, wedi ei baratoi gan Bryn, gyda phwdin i ddilyn. Roedd y byrddau wedi eu haddurno’n gelfydd gyda chennin pedr gan Lydia Jones a Jean Williams.Llywyddwyd y noson a chroesawyd pawb gan y gweinidog, y Parch W Bryn Williams.Yn dilyn y wledd, cyflwynodd Richard D Williams y gwr gwadd, sef Glyn Williams, y tenor o Borth-y-Gest, a’i gyfeilydd Alan Roberts.Cafwyd sgwrs ysgafn a doniol gan Glyn ynghyd ag ambell i gân a phwysleisiodd ar ei gysylltiadau a’i ymweliadau gyda phobl roedd yn ddyledus iddynt am eu cymorth a’r croeso ym Mhwllheli a’r cylch ar hyd y blynyddoedd.Diolchwyd i’r ddau ohonynt ac i’r pwyllgor am noson arbennig gan Griff T Owen a diolchodd hefyd i Catherine Hefina Jones am drefnu rhaglen mor amrywiol drwy’r tymor.
Aelwyd Chwiorydd
YN ÔL yr arfer, i gau tymor aelwyd y prynhawn cynhaliwyd cyfarfod cenhadol ar ddydd Llun, 7 Mawrth.Llywyddwyd gan Lydia Jones a chydym-deimlwyd ag Elisabeth Williams ar golli ei chwaer. Anfonwyd cyfarchion at Elen Roberts, Trelan oedd ddim yn dda.Gwr gwadd y cyfarfod oedd y Parch Robert O Roberts, Morfa Nefyn. Darllenodd am Iesu’n mynd i Jeriwsalem ac am y canghennau palmwydd a osodwyd dan ei draed. Yna’r Iesu’n datgelu i’r disgyblion pwy ydoedd ac yn cael ei wrthod gan yr Iddewon am ei fod yn wahanol ac yn groes i’w traddodiadau a’u cyfraith.Dilynwyd gyda phaned a chodwyd y swm o £50 ar y bwrdd gwerthu at Cymorth Cristnogol. Hefyd, roedd £35.50 yn y blwch casglu.
Cylch Cyfeillion
YN Y cyfarfod ar ddydd Llun, 7 Mawrth, treuliodd yr aelodau’r prynhawn yn edrych ymlaen at y cyfarfodydd i ddod.Pwnc pwysicaf y prynhawn oedd edrych trwy’r fantolen ariannol flynyddol.Rhaid i’r clwb fod y ddarbodus o bob ceiniog a ddefnyddir ac roedd pawb yn hapus bod ganddynt ddigon o adnoddau i gael mwynhau y cyfarfodydd wythnosol.Gresyn bod rhaid gwylio bob ceiniog gan nad oes grant o gwbl i’w gael ers blynyddoedd bellach. Gan eu bod yn ofalus mae’r aelodau’n llawenhau eu bod yn gallu mynd allan i fwynhau’n lleol.Dyna oedd pwrpas y cylch o’r dyddiau cynnar, dros chwarter canrif yn ôl, o dan wahanol enwau. Hunan hyder oedd holl bwrpas y cyfarfodydd yn y dyddiau hynny.Mae nifer yr aelodaeth bellach wedi gostwng yn sylweddol, ond mae’n dda dweud bod pawb yn dod i bod cyfarfod yn gyson.Ar ddiwedd y cyfarfod chwaraewyd gêm o bingo, sydd bob amser yn help i ganolbwyntio â phawb yn cael hwyl gyda’i gilydd.Yr enillwyr oedd Betty Jones, Lôn Ceredigion; Jean Roberts, Y Ffôr; a Gwyndaf Davies, Bryn Crin.
Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian Church on Easter Sunday, 27 March, will be led by Rev W Bryn Williams. An united Easter Service will be held in Seion Chapel, New Street, at 5pm. The address will be given by Rev W Bryn Williams and the collection will go towards Christian Aid. All are welcome.
Aelwyd yr Hwyr
LLYWYDDWYD y cyfarfod cenhadol i gloi tymor aelwyd y hwyr, nos Fawrth, 13 Mawrth, gan Enid Roberts.Hi hefyd arweiniodd y defosiwn dechreuol. Yna, cyflwynodd ac estynodd groeso cynnes i‘r gwr gwadd, sef John Jones o fudiad Y Samariaid.Eglurodd Mr Jones bod y mudiad wedi cychwyn mewn eglwys yn Llundain yn 1953 ac erbyn hyn mae 200 o ganghennau wedi eu sefydlu.Bwriad y Samariaid yw cynnig “clust i wrando”, gyda chyfle i bawb gael deud ei ddeud. Mae llinellau yn agored 24/7, a’r amser prysuraf, meddai, yw rhwng 11yh a 3yb. Pwysleisiodd bod pob un sgwrs yn gyfrina-chol ac nid yw’n orfodol i neb roi eu henwau.Ychwanegodd bod y gwirfoddolwyr yn cael eu cynghori i adael pethau yn y swyddfa ac i beidio mynd â phroblemau adref gyda hwy.Diolchwyd yn gynnes i Mr Jones am ei sgwrs addysgol a diddorol. Diweddwyd y noson gyda phaned dan ofal dwylo abl Jane Lloyd a Mair Williams. Codwyd y swm o £53 ar y bwrdd gwerthu.
RNLI
A COFFEE morning will be held at Penlan Chapel vestry on Wednesday, 30 April, as part of a £24,000 fund-raising event by the RNLI to buy a small craft. Doors open at 10.30am.There will be a range of stalls and raffles.
Easter Services
ST JOSEPH’S: Maundy Thursday, 7pm, Mass of the Lord’s Supper; Adoration follows until 10pm. Good Friday, 3pm, Liturgy of the Passion; 6pm, Stations of the Cross. Saturday, 7pm, Easter Vigil. Easter Sunday, 11am, Mass; 5pm, United at Seion Chapel.St Peter’s: Maundy Thursday, 7pm, Eucha-rist and Washing of Feet. Good Friday, 2pm, Liturgy and Meditation. Easter Sunday, 11am, Eucharist/Offeren; 5pm, United at Seion Chapel.Capel Seion: 10yb, y Parch Cledwyn Griffith, Mynytho; 5yh, Oedfa Unedig y Pasg, y Parch W Bryn Williams.Capel Penlan: 10yb, y Parch Glenys Jones; 5yh, Unedig yn Seion.
Capel y Drindod
DYDD Iau, 24 Mawrth: 7yh, Oedfa Undebol i’r Ofalaeth yn Bethel, Penrhos.Dydd Gwener, 25 Mawrth: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol yn Festri’r Ala.Dydd Sul, 27 Mawrth: 10yb, Oedfa yng ngofal y gweinidog; 5yh, Oedfa Undebol yn Seion.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.