NOS Wener, 15 Rhagfyr, roedd Eglwys Cadfan Sant, Tywyn dan ei sang ar gyfer cyngerdd elusennol a gynhaliwyd gan Gôr Bro Meirion, dan arweiniad Iwan Wyn Parry.
Rhannwyd yr elw a ddeilliodd o’r cyngerdd yn gyfartal rhwng Cronfa adfer to’r eglwys a’r elusen iechyd meddwl, MIND.
Yn ddiweddar, daeth Jasmine French, cynrychiolydd MIND (Gwynedd a Môn) i Dy Siamas, Dolgellau, ble mae’r côr yn ymarfer, i dderbyn siec am £525.
Yn y llun gwelir: Linda Jones, aelod o’r côr a threfnydd y cyngerdd; Jasmine French (MIND) ac Eleri Wyn Williams, ysgrifennydd y côr






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.