Mae’r awdur adnabyddus o Geredigion, Caryl Lewis, wedi rhybuddio bod plant y dyddiau hyn mewn perygl o golli geiriau a thermau Cymraeg o fyd natur.

Daw’r sylwadau yn sgil cyhoeddi ei llyfr newydd i blant, Merch y Mêl.

Arluniwyd y gyfrol gan arlunydd Ffrengig sy’n byw y dyddiau yma yn ardal Aberystwyth, Valériane Leblond.

Yn Merch y Mêl, caiff Elsi ei gadael ar stepen drws ei mam-gu.

Mae Elsi mor dawel â’r eira nes i Mam-gu ddangos cyfrinach iddi ar waelod yr ardd – cwch gwenyn.

Trwy ddilyn y gwenyn, a sylwi ar bopeth sy’n digwydd yn yr ardd yn ystod y flwyddyn, daw Elsi i garu pob tymor yn ei dro.

Dywedodd Caryl: “Fe ysgrifennais i’r gyfrol yn rhannol er mwyn dysgu plant am dymhorau ac enwau’r byd natur sydd o’n cwmpas a geiriau fel bysedd y cwn, clychau’r gog, cynffonnau wyn bach ac ati,” eglurodd Caryl.

“Dyw plant ddim yn cael dysgu enwau blodau a choed ac ati bellach fel erstalwm.

“Ond cefais fy ysbrydoli hefyd gan fy mhrofiad o gadw gwenyn ar ein fferm yng Ngoginan, ger Aberystwyth,” ychwanegodd.

“Bellach mae fy merch, Gwenno, yn dysgu am gadw gwenyn hefyd yn union fel Elsi!

“Mae’n bwysig iawn bod yn ymwybodol o’r byd sydd o’n cwmpas, a dyle plant ac oedolion wybod a deall mwy am natur a’i berthynas gyda phopeth,” ychwanegodd Valériane.

Bydd y llyfr clawr caled, sydd yn addas ar gyfer plant 4 i 8 oed, yn gyfrol i’w thrysori ac yn gyfle i blant ddysgu enwau blodau ac am wenyn a byd natur drwy’r tymhorau yn stori annwyl Caryl Lewis a lluniau bendigedig Valériane Leblond.