Cyflwynir Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol i Robin Williams, am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth. Bydd yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig ar Faes yr Eisteddfod yng Ngheredigion o 30 Gorffennaf – 6 Awst eleni.

Mae Robin Williams yn ffisegwr ac yn awdurdod ym maes lled-ddargludyddion, ac mae’i ymchwil wedi bod yn ganolog yn natblygiant electroneg ddigidol a’r newidiadau pellgyrhaeddol ym myd cyfrifyddiaeth a chyfathrebu.

Datblygodd ddulliau newydd i astudio lled- ddargludyddion ac ef oedd un o’r rhai cyntaf i ddefnyddio ymbelydredd syncrotron i astudio wyneb soledau, a bu’n cydweithio gyda nifer o gwmnïau ar draws y byd.

Wedi’i eni ar fferm fynyddig yn Llanuwchllyn, cafodd ei addysg yn ysgol y pentref ac yn Y Bala cyn mynd I Brifysgol Bangor lle y graddiodd mewn ffiseg. Wedi gorffen ei ddoethuriaeth bu’n gweithio yn yr Iwerddon gyda chyfnodau yn yr Unol Daleithiau ac yn yr Almaen cyn dychwelyd i Gymru fel Pennaeth yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn falch iawn o weld cynifer o fyfyrwyr Cymraeg yn ymuno â’r Adran ac roedd yn wastad yn barod i gynnig dosbarthiadau yn y Gymraeg i’r rhai oedd â diddordeb.

Wedi cyfnod fel Is-Bennaeth Prifysgol Caerdydd cafodd ei benodi’n Bennaeth Prifysgol Abertawe lle’r oedd yn hynod o gefnogol i’r defnydd o’r Gymraeg ymhob agwedd o waith y Coleg. Balchder iddo oedd goruchwylio sefydlu Ysgol Feddygol Abertawe a’r cyfle i benodri athrawon disglair, nifer ohonynt a’r gallu i gynnig cyrsiau yn y Gymraeg.

Yn 2010, ar ran Llywodraeth Cymru, fe gadeiriodd y Bwrdd i roi ystyriaeth i ddysgu drwy’r Gymraeg ym Mhrifysgolion Cymru a oedd yn bwnc llosg ar y pryd. Arweiniodd ei adroddiad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd erbyn hyn wedi trawsnewid y cyfleusterau i ddysgu yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog ac sydd wedi bod yn llwyddiant enfawr.

Mae’n gyson wedi bod yn cynghori llywodraethau Prydain a Chymru ar agweddau o wyddoniaeth ac mae yn gyn-gadeirydd Pwyllgor Cynghori Gwyddoniaeth Cymru. Mae’n Gymrawd gwreiddiol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, cafodd ei wneud yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol yn 1990, a’i apwyntio yn Farchog yn 2019.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ar gyrion Tregaron o 30 Gorffennaf – 6 Awst. Am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau Maes, ewch i www.eisteddfod.cymru.