Mae siaradwyr Cymraeg yn wynebu anghyfiawnder os ydynt eisiau sefyll eu profion gyrru drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Mewn adroddiad newydd ar sail ymchwiliad i weithrediad Cynllun Iaith Gymraeg yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), mae’r Comisiynydd yn dod i’r casgliad bod yr asiantaeth yn gweithredu’n groes i’w ymrwymiad i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.
Methodd y DVSA ar sail:
• Roedd y ganran o brofion gyrru cyfrwng Cymraeg a gafodd eu canslo bron i dair gwaith yn uwch na’r ganran o brofion cyfrwng Saesneg a gafodd eu canslo.
• Roedd yn rhaid aros pump i chwe wythnos yn hirach cyn sefyll prawf gyrru ymarferol yn y Gymraeg o’i gymharu â’r Saesneg.
• Os yw unigolyn eisiau gwneud cais i sefyll prawf gyrru ymarferol drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n rhaid iddo nodi bod ganddo ‘ofynion arbennig’.
Mae Cynllun Iaith y DVSA, a luniwyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, yn nodi y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, bod profion gyrru yn y Gymraeg ar gael ym mhob canolfan profi yng Nghymru, a bod safon ac ansawdd y gwasanaethau yn gyson ledled Cymru.
Noda hefyd y “bydd ymgeiswyr yn gallu dewis cymryd prawf ymarferol yn y Gymraeg ar adeg archebu a byddwn yn darparu arholwr sy’n siarad Cymraeg.”
Penderfynodd y Comisiynydd gynnal ymchwiliad wedi iddo ddod yn ymwybodol o nifer o negeseuon ar wefannau cymdeithasol ym mis Medi 2019 am bryderon ynghylch argaeledd profion gyrru drwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth gyhoeddi ei adroddiad, dywedodd Aled Roberts: “Mae yna ddeng mlynedd ers i Senedd Cymru basio deddf yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a sefydlu’r egwyddor o hawliau i ddefnyddio’r iaith.
“Ond, fel mae’r achos hwn yn ei brofi, mae yna dal lawer iawn gormod o eithriadau sy’n tanseilio’r amcanion hyn. Daeth yn amlwg wrth i mi gynnal yr ymchwiliad nad yw arferion y DVSA yn dod yn agos at gwrdd â’r ymrwymiad y mae wedi ei wneud i bobl Cymru yn ei Gynllun Iaith Gymraeg.
“Realiti’r sefyllfa yw bod ein pobl ifanc yn cael eu gorfodi i dderbyn triniaeth lai ffafriol os ydynt eisiau gwasanaeth Cymraeg yng Nghymru heddiw, a’u bod yn cael eu gorfodi i ddatgan ‘gofynion arbennig’ os ydynt am ddefnyddio’r iaith.
“Mae’n hawdd iawn rhagweld sut y gallai profiad mor negyddol o oedran ifanc gael effaith negyddol ar eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg wrth fynd yn h?n.”
Mae ymchwil y Comisiynydd yn awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn llai tebygol o ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg os ydynt yn credu y byddai hynny’n arwain at unrhyw oedi, annifyrrwch neu drafferth.
Ychwanegodd Mr Roberts: “Y neges sy’n cael ei rhoi i’n pobl ifanc yw y dylent ddefnyddio’r Saesneg os ydynt am sefyll eu prawf gyrru. Ac o edrych ar ba mor isel yw’r niferoedd sy’n sefyll eu prawf drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n amlwg fod hyn yn cael dylanwad ar ddewis iaith unigolion. Yn sicr, nid yw’r hyn sy’n digwydd yn adlewyrchu addewid cyhoeddus y DVSA i drin y ddwy iaith yn gyfartal.”
Yn ei adroddiad, mae’r Comisiynydd yn argymell bod y DVSA yn cynnal adolygiad o’r ffordd caiff profion cyfrwng Cymraeg eu cynnal ac yn paratoi cynllun gweithredu er mwyn sicrhau bod profion gyrru ymarferol Cymraeg yn cael eu cynnig yn rhagweithiol ac yn gyfartal yn y dyfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran y DVSA: “Blaenoriaeth DVSA yw helpu pawb trwy oes o yrru’n ddiogel.
“Fe wnaethon ni gynorthwyo ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg trwy ddarparu gwybodaeth yn dangos sut mae DVSA yn cefnogi siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd.
“Rydyn ni eisoes wedi cytuno i gynnal archwiliadau mewnol rheolaidd ar ein cynllun Cymraeg a sut rydyn ni’n darparu profion gyrru yn Gymraeg, er mwyn sicrhau ein bod ni’n parhau i wella’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu.
“Byddwn nawr yn ystyried adroddiad llawn, terfynol y Comisiynydd ac yn ymateb maes o law.”







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.