Gwasanaeth

CAFWYD gwasanaeth bendithiol iawn y Sul diwethaf o dan ofal y Parchg Gwilym Wyn Roberts, Caerdydd. Diolch yn fawr i John a Lisa Griffiths, Waunhelyg, Lledrod am ganu’r emyn Dewch hen ac ieuainc, dewch i’r gynulleidfa.

Gwnaed y cyhoeddi gan Mair Hughes, Alltddu a chwaraewyd yr allweddellau gan Mair Richards, Llanddewi Brefi. Disgwylir y Parchg Goronwy Evans, Llanbedr Pont Steffan i wasanaethu’r Sul nesaf am ddau o’r gloch.

Croeso cynnes i bawb.