Gyda chonsensws bod diffyg darpariaeth o ran nofelau i oedolion ifanc yn Gymraeg, mae’r Lolfa ar fin cyhoeddi’r olaf yn nhriolegau’r awduron poblogaidd a phrofiadol Lleucu Roberts a Bethan Gwanas.

Mae’r ddwy drioleg yn gam tuag at lenwi’r “bwlch anferthol a phoenus,” yng ngeiriau Bethan.

Mae llyfrau cyntaf y triolegau wedi cael ymateb gwych ac yn ateb y galw am ddeunydd gwreiddiol, ffres ac anturus i oedolion ifanc Cymru.

Ym mis Gorffennaf 2017 cyhoeddwyd Arolwg Llyfrau Plant a Phobl Ifanc gan Dr Siwan Rosser, Prifysgol Caerdydd. Adroddir: “O wrando ar farn pobl ifanc, daw’n amlwg eu bod yn ysu am nofelau Cymraeg sy’n mynd i’r afael â’u profiadau hwy. Galwant am straeon mwy cymhleth a heriol, nid ar themâu ‘tywyll’ o reidrwydd ond yn llawn egni, hiwmor a dychymyg ac mewn iaith hygyrch.”

Dyma felly gyflwyno Afallon o gyfres Yma (addas i rhai 14 oed a hyn) gan Lleucu Roberts a Edenia o gyfres Y Melanai (addas i blant 12 oed a hyn) gan Bethan Gwanas.

“Mae Bethan Gwanas a Lleucu Roberts wedi ysgrifennu dwy drioleg gyfoes, llawn antur sy’n haeddu cael eu clodfori a’u canmol,” meddai Meinir Wyn Edwards, golygydd yn Y Lolfa.

Meddai Bethan, sy’n dod o Brithdir, ger Dolgellau: “Mae hi wedi bod yn farathon, ond braint oedd cael bod yn rhan o brosiect mor gyffrous. Dwi’n falch iawn o’r tair nofel, a gobeithio y bydd y darllenwyr yn mwynhau straeon y cymeriadau gymaint ag y gwnes i fwynhau eu creu. Dwi wir yn mynd i weld eu colli nhw.”

Ychwanegodd Lleucu Roberts, o Aberystwyth: “Braint yw cael cyfle i ysgrifennu straeon gwreiddiol yn y Gymraeg ar gyfer darllenwyr ifanc heddiw, a’r her yw gwneud hynny mewn modd sy’n helpu i ennyn cariad gydol oes at ddarllen nofelau Cymraeg.”

Bydd setiau o’r cyfresi’n cael eu creu ac ar werth erbyn diwedd mis Mai.

Ariennir y prosiect gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru ac mae panel o athrawon wedi monitro’r broses er mwyn sicrhau apêl ac addasrwydd y cynnwys.

Mae Edenia gan Bethan Gwanas ac Afallon gan Lleucu Roberts ar gael nawr.