Mae’r Urdd wedi cyhoeddi mai Helen Medi Williams a Lona Phillips fydd yn derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled eleni. Caiff y tlws ei gyflwyno yn flynyddol yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd, fel gwobr am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Mae Helen yn athrawes yn Ysgol Rhydypennau, Bow Street a nyrs yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth yw Lona. Yn ogystal â hyfforddi a chynorthwyo Aelwyd Aberystwyth, chwaraeodd y ddwy ran flaenllaw yn ei sefydlu yn 2009 er mwyn sicrhau cyfle i blant y dref a’r cyffiniau gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010 a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Adran ar gyfer plant cynradd oedd hi’n wreiddiol ond mi aeth o nerth i nerth ac ers 2013 mae ganddi hefyd adran uwchradd.

Meddai llefarydd ar ran aelodau a rhieni Aelwyd Aberystwyth: “Mae ymroddiad Helen a Lona a’u brwdfrydedd wrth gyfrannu’n gwbl wirfoddol at ddatblygiad a phrofiadau pobl ifanc Aberystwyth a’r cyffiniau yn eu gwneud yn gwbl deilwng o Dlws John a Ceridwen Hughes.”

Meddai cyn-aelod o’r Aelwyd, Siwan Fflur Davies: “Roeddwn yn un o’r aelodau cyntaf yn 2009, a bues i’n cystadlu bob blwyddyn hyd at Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019. Mae gennyf lawer o atgofion melys ac rwy’n ddiolchgar iawn i Adran Aberystwyth, ac i Helen a Lona yn arbennig, am bob cyfle.”

Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Mae Helen a Lona wedi cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc Aberystwyth ers degawd a mwy bellach, ac mae hi’n fraint a phleser eu hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni. Mae’r Urdd yn ddibynnol ar bobol weithgar, cydwybodol fel hyn i’w gynnal a’i hyrwyddo a dangos pa mor werthfawr, a gymaint o hwyl, ydi bod yn aelod o’r mudiad.”

Cafodd Helen a Lona wybod eu bod wedi ennill y wobr yn ystod un o ymarferion Aelwyd Aberystwyth yn ddiweddar. Roedd y cyflwynydd Heledd Cynwal a’r criw yno i roi syrpreis iddynt ac i roi gwybod eu bod wedi ennill.

Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid. Bydd seremoni arbennig i gyflwyno’r tlws ar Lwyfan y Cyfrwy ar ddydd Iau, 2 Mehefin ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.