MAE disgwyl ymlaen eiddgar bellach am uchafbwynt cyffro G?yl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog a’r Fro 2018 ar ddydd Sadwrn, 10 Tachwedd.

Mae’r daith i drefnu’r digwyddiad cenedlaethol hwn wedi bod yn hwyliog, yn brysur ac wedi gwibio heibio.

Mae’r pwyllgor gwaith bellach wedi hen basio’r nod ariannol o £40,000 ac wedi casglu £55,000 at yr ?yl arbennig hon.

Mae’r ceisiadau cystadlu wedi llifo i law ac mae hi’n argoeli i fod yn ddigwyddiad llwyddiannus dros ben.

Dywedodd Iwan Morgan, cadeirydd y Pwyllgor gwaith: “Mae’r ?yl Cerdd Dant ar fîn ein cyrraedd a pharatoadau’r wythnosau ola’n disgyn i’w lle. Mae niferoedd y rhai a gofrestrodd i gystadlu yn debyg o fod ymysg yr uchaf erioed! Gwn fod yna hen edrych ymlaen at gael croesawu ‘G?yl Genedlaethol’ o bwys ymysg trigolion yr ardal.”

Wrth ddechrau mynd i’r afael hefo paratoadau G?yl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog a’r Fro 2018 trefnodd y pwyllgor gwaith gystadleuaeth i ddewis logo swyddogol ar gyfer yr ?yl.

Roedd y pwyllgor yn awyddus fod y logo hwn yn cyfleu neges am natur yr ?yl yn ogystal â chyfleu naws a threftadaeth yr ardal leol mewn dull hylaw a syml.

Cafwyd cyfoeth o geisiadau yn ymateb i’r cais.

Derbyniwyd y cais buddugol gan Erin Roberts, disgybl yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog.

Roedd logo Erin yn impio tair elfen yn llwyddiannus iawn hefo ei gilydd, sef logo o’r delyn ynghyd ag awgrym o ddiwydiant llechi yr ardal ac amlinell o’r mynyddoedd sy’n cwmpasu’r fro.

Seiliwyd tlws yr ?yl hefyd ar y logo hwn.

Mae’r gwneuthuriad cain o lechen lleol Stiniog a luniwyd yn gelfydd gan grefftwr lleol yn gampwaith unigryw sydd eto’n adlewyrchu naws Blaenau Ffestiniog a’r fro.

Llongyfarchiadau teilwng iawn i Erin sy’n arddangos tlws yr ?yl (uchod, chwith).

Mae Gwyn Williams (uchod, dde) yn enedigol o Trawsfynydd, ac yn saer maen wrth ei alwedigaeth.

Bellach ers dros 20 mlynedd mae’n berchen ac yn rhedeg chwarel fechan yn y Traws o dan yr enw Ithfaen Meirionnydd, Craig y Tan, Stesion, Trawsfynydd.

Er bod y chwarel yn gwerthu amryw o gynhyrchion fel cerrig adeiladu, harthiau llechen, crefftau a llawer o bethau eraill, mae Gwyn yn ymfalchïo mewn gwaith cerfio cywrain mewn llechen Gymraeg, ac yn ceisio dod â syniadau a dyluniau newydd wrth ddefnyddio llechen orau’n y byd! Llechen ‘Stiniog!