Yn dilyn llwyddiant arbennig unwaith eto gan Taith Tractorau Dyffryn Aeron a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, codwyd £9,000.

Yn y llun gwelir y swyddogion, Aled Williams, Eilir Jones a Gareth Morgan-Isaac a’r prif noddwr Huw a Monica Lloyd, Jonathan Jones ac Elgan Evans gyda siec a fydd yn cael ei rhannu’n gyfartal rhwng Uned Cardioleg Ysbyty Bronglais, Ambiwlans Awys Cymru a Chronfa Mari-Leisa Jên.

Dymuna’r pwyllgor ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u haelioni.

Bydd Taith Tractorau Dyffryn Aeron eleni ar dydd Sul, 26 Ebrill.

Bydd y daith hon yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ac Ysbyty Plant Cymru Arch Noa.