Capel y Fadfa

CYNHELIR yr oedfa fore Sul nesaf am 10.30 o’r gloch, pryd y bydd ein gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas.

Ysgol Gynradd

MAE blwyddyn arall wedi mynd heibio a’r amser wedi dod unwaith eto i ymaelodi â’r loteri flynyddol. Rhif y bêl bonws o’r Loteri Genedla-ethol ar y dydd Sadwrn diwethaf o bob mis yw’r enillydd a bydd rhywun yn derbyn y swm o £25. Gofynnwn yn garedig am eich cefnogaeth eto am y flwyddyn i ddod. Bydd y rhif cyntaf yn cael ei dynnu ar y dydd Sadwrn olaf yn Ionawr. Croeso i unrhyw aelod o’r teulu, ffrindiau neu gymdogion i ymaelodi. Os am ymuno a wnewch plîs gysylltu gyda’r ysgol erbyn dydd Gwener er mwyn galluogi i gael y rhifau allan cyn diwedd y mis.Drwy ymuno byddwch yn cefnogi’r ysgol yn ariannol.Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth yn fawr eleni eto.

Eisteddfod

CYNHELIR Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa eleni ar ddydd Sadwrn, 7 Mai, yn Neuadd y pentref. Bydd y rhaglen allan cyn diwedd y mis. Eleni cynigir gwobrau hael iawn i’r enillwyr, yn enwedig yn adran yr oedolion. Os am ragor o fanylion cysylltwch gyda Emyr Griffiths ar 01545 590383 neu Enfys ar 01545 590295.