Capel y Fadfa

CYNHALIWYD oedfa foreol yn fore Sul diwethaf am 10.30yb, gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn falch o groesawi aelodau a ffrindiau’r achos i’r cwrdd boreol. Braf oedd cael cwmni plant yr Ysgol Sul ar gychwyn y cwrdd, gyda’u hathrawes Tania Rees. Roedd y plant yn ymateb yn dda i’r stori fach a gafwyd gan y gweinidog, stori a oedd yn gwneud iddynt feddwl am bwy oedd yn eu helpu yn ddyddiol a pheidio â bod ofn i holi am gymorth os fyddai rhaid. Yr un thema oedd gan y gweinidog yn ei anerchiad ar gyfer yr oedolion. Wrth yr organ oedd Carol Rees. Hyfryd oedd gweld cynulleidfa luosog wedi troi i fewn er gweithaf yr hin oer tu allan. Cynhelir yr oedfa nesaf ddydd Sul, 31 Ionawr am 3yp ac yn ôl yr arfer bydd croeso cynnes i bawb.

Eisteddfod

ELENI cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa ar ddydd Sadwrn, 7 Mai yn neuadd y pentref. Bydd y rhaglen allan cyn diwedd y mis, yn cynnwys rhestr o gystad-laethau gwahanol, gyda rhywbeth a fydd yn siwtio pawb. Cynigir gwobrau hael i’r enillwyr, yn enwedig yn adran yr oedolion, os am ragor o fanylion cysylltwch ag Emyr Griffiths ar 01545 590383 neu Enfys ar 01545 590295 i dderbyn y rhaglen unwaith y daw o’r wasg.SefydluYN YR oes pan mae capeli yn cau ym mhob cwr o Gymru yn wythno-sol, braf oedd gweld sefydlu gweinidog newydd, sef Y Parch Lewis Rees yng Nghapel Undodaidd Nottage ddydd Sadwrn diwethaf. Un o’r gweinidogion oedd yn cymryd rhan arweiniol oedd y Parch Wyn Thomas, a chafwyd ganddo anerchiad priodol ac amserol i ddymuno yn dda i’r gweinidog newydd. Y Parch Eric Jones oedd yn llywyddu a hefyd cafwyd gair o gyfarchion ar ran Cyfadran Gymraeg yr Undodiaid gan Melda Grantham. Roedd y capel bach yn llawn, gyda phobl wedi ymdeithio o bob congl o Brydain. I’r neuadd aeth pawb wedyn i fwynhau’r arlwy oedd wedi ei baratoi gan wragedd y capel, gyda chacen arbennig i y ddathlu’r ach-lysur.