Capel y Fadfa

A HITHAU yn ddiwrnod Sant Ffolant, cynhelir yr oedfa Gymun ddydd Sul nesaf am 1.30yp. Yn ôl yr arfer bydd croeso cynnes i bawb i’r oedfa hyn yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.

Taith i Disneyland

MAE’R Urdd wedi cyhoeddi pwy fydd yn perfformio yn ystod Penwythnos Cymreig Parc Disneyland, Paris, ddechrau mis Mawrth eleni ac un o’r buddugwyr yw Lowri Davies o Ysgol Gynradd Talgarreg, enillydd yr unawd Bl 5 a 6 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili a’r Cylch y llynedd. Bydd teulu Lowri yn cael teithio gyda hi ar y daith arbennig hon hefyd. Roedd y criw yn cyfarfod am y tro cyntaf yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd ddydd Mawrth diwethaf, pryd y cânt fwy o wybodaeth am y penwythnos Cymreig gan Paul Heustice o Disneyland, Paris.

Adran

BU CRIW’R Adran leol yn cystadlu yng Nghwis Adrannau Ceredigion yn ddiweddar. Roedd adrannau Bro Sïon Cwilt, Ciliau, Llanbed a’r Bryn yn cys-tadlu hefyd. Digon o hwyl wrth herio’i gilydd â phawb wedi joio llond bol o fwyd! Yn fuddugol oedd Bois Ciliau, ail Y Bryn ac yn drydydd oedd Merched Ciliau.

Rhagysbysiad

CYNHELIR Carnifal a Mabolgampau’r pentref ar ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf. Rhowch y dyddiad yn eich dyd-diadur nawr.