Capel y Fadfa

CYNHALIWYD oedfa ddydd Sul diwethaf am 3yp yng nghwmni ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas. Gan ei bod yn flwyddyn naid a diwrnod ychwanegol ym mis Chwefror a dydd Gwyl Dewi yn dilyn, atgoffodd ein gweinidog i ni wneud y pethe bychan ac efallai y bydd y rhain yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y diwedd. Unwaith eto roedd Jac a Mari o gymorth, drwy fynd o amgylch i wneud y casgliad. Wrth yr organ oedd Carol Rees. Braf oedd gweld cymaint wedi troi fewn er gweithaf yr hin oer.

Ymlaen mewn Undod

DDYDD Sadwrn nesaf rhwng 10yb a 3yp yng Ngwesty’r Boars Head, Caerfyrddin, bydd Undodiaid Cymru yn cynnal cynhadledd dan y penawd “Ymlaen mewn Undod”. Digwyddiad dwyieithog fydd hwn, yn cynnig cyfle i bawb ddod at ei gilydd i rannu syniadau ac arfer dda, i wneud awgrymiadau ac i drafod ffyrdd posib o ddatblygu’r mudiad ar gyfer y dyfodol. Cytunodd Undodiaid Cymru yn ddiweddar i roi’r prif ffocws dros y flwyddyn nesaf ar Wasanaeth i Ddynoliaeth, gan gytuno i gefnogi un prif elusen sef Cymorth i Fenywod, ac yn benodol BAWSO. Elusen yw BAWSO sy’n cynnig cefnogaeth i unrhyw un sy’n dioddef o drais yn y cartref, masnacha pobl, priodasau gorfod a FGM yng Nghymru. Yn ystod y bore bydd cyflwyniad gan swyddog o BAWSO, yn ogystal â chyflwyniadau gan rai aelodau o’r cynulleidfaoedd am y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud gan ein haelodau. Darperir cinio rhost ac mae’n bosib trefnu opsiwn llysieuol os oes angen. Bydd trafodaethau grwp yn y prynhawn yn cynnig cyfle i chi i roi eich syniadau a’ch awgrymiadau ymlaen. Gobeithiwn bydd pob cynulleidfa yn cymryd y cyfle i ymuno â ni ar y dydd. Gofynnwn i bawb sydd am fynychu am gyfraniad o £5 tuag at y cinio. I sicrhau eich lle, cysylltwch gyda Melda ar 01559 362392 neu [email protected]

Cawl a Chân

CYNHELIR noson o Gawl a Chân yn y Neuadd Goffa nos Sadwrn nesaf am 7yh ac yn ôl yr arfer bydd croeso cynnes i bawb yn yr ardal i ddod i fwynhau’r arlwy Gymraeg a fydd yn cael ei weini ar y noson. Bydd plant yr ysgol ynghyd â phlant y Cylch Meithrin leol yn cynnal cyngerdd, felly noson o wir ddiddanwch fydd yn cael ei pharatoi ar eich cyfer. Bydd tâl mynediad o £5 i oedolion a phlant yr ysgol am ddim. Bydd holl elw’r noson y mynd tuag at waith cynnal a chadw’r neuadd.