Capel y Fadfa

DDYDD Sul nesaf cynhelir Cwrdd Pawb Yn-ghyd am 1.30yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu. Croeso cynnes i aelodau a ffrindiau i’r cwrdd blynyddol hyn. I ddilyn bydd te yn y Festri. Ddydd Sul diwethaf cynhaliwyd Oedfa Undebol yn Hen Gapel Llwynrhydowen yng ngofal y Parch Wyn Thomas a chafwyd neges amserol yn ôl yr arfer ganddo. Wrth yr organ oedd Shân Jones.

Taith Tractorau

FORE Sul nesaf cynhelir y digwyddiad uchod; pawb i gofrestru rhwng 9.30 a 10.30yb yn y neuadd ac i gael ychydig o luniaeth, cyn gadael ar y daith o amgylch lonydd cul yr ardal am 10.30yb. Bydd y daith yn gorffen yn Nhafarn Glanyrafon. Yr holl elw er budd yr Ysgol Gynradd a Chylch Ti a Fi ac Ysgol Feithrin. Canu NOS Sadwrn diwethaf roedd y diddanwr Tudur Wyn yn ôl unwaith eto yn Nhafarn Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan. Braf oedd gweld yr ystafell yn gyfforddus lawn a phawb yn mwynhau. Bydd y canu nesaf ar nos Sadwrn, 18 Mehefin, gyda Clive Edwards yn diddanu. Gyrfa Chwist NOS Iau cynhelir Gyrfa Chwist yn Nhafarn Glanyrafon. Bydd yr holl elw yn mynd tuag at elusennau lleol.

Gwyl Talgarreg

CYNHELIR yr wyl eleni ar benwythnos gyntaf Gorffennaf. Helfa Drysor ar droed ar y nos Wener a threfnwyr yr helfa fydd enillwyr llynedd. Pawb i ymgynnull yn y neuadd rhwng 6 a 7yh. Ddydd Sadwrn yng nghae’r ysgol am 2.30yp cynhelir y Carnifal a’r Mabolgampau, Ras Sion Cwilt, Barbeciw, Rownderi a Thynnu’r Celyn. Tâl mynediad fydd £3 y person a phlant yr ysgol gynradd am ddim. Thema’r Fflôt eleni fydd Ewrop, gan obeithio y bydd timau o ardaloedd Pisgah, Talgarreg, Bwlchyfadfa a Phantgoch yn cymryd rhan, felly digon o amser i bawb baratoi eu gwisgoedd ffansi ar gyfer y digwyddiad blynyddol hwn. Rasys Beicio BU Llyr Rees, Rhosdir, Bwlchyfadfa yn ffodus i gael ei ddewis fel Mascot i un o dimoedd y Abercyclefest y penwythnos diwethaf yn Aberystwyth a daeth hefyd yn drydydd yn un o’r rasys yn ystod y pryn-hawn.