Dros y misoedd nesaf, bydd y naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu Iolo Williams yn arwain teithiau natur i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg, gan roi cyfle i ddysgwyr ddod i adnabod siaradwyr rhugl yn eu hardaloedd nhw mewn awyrgylch anffurfiol.
Mae teithiau cerdded ‘Ar Droed’ yn brosiect ar y cyd rhwng Mentrau Iaith Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Bydd pedair taith gerdded yn cael eu cynnal rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf mewn gwahanol ardaloedd o Gymru:
• Parc Margam, Castell Nedd Port Talbot: 23 Ebrill
• Ardal Dinbych: 8 Mai
• Cwm Idwal, Parc Cenedlaethol Eryri: 29 Mehefin
• Libanus, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: 4 Gorffennaf
Byddant yn rhan o her #MiliwnOGamau Mentrau Iaith Cymru – ymdrech grŵp i gerdded miliwn o gamau rhwng Ebrill a Gorffennaf 2022.
Y gobaith yw rhoi mwy o gyfleoedd i bobl gymdeithasu yn Gymraeg, a helpu i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr.
Yn ogystal â’r pedair taith gerdded gydag Iolo Williams, a fydd ar agor i 20 o unigolion ar bob un, bydd nifer o deithiau cerdded lleol yn cael eu cynnal ar yr un diwrnodau er mwyn ceisio cyrraedd targed y miliwn o gamau a chynnig digon o gyfleoedd i gymdeithasu yn Gymraeg.
Meddai Iwan Hywel, arweinydd Tîm Mentrau Iaith Cymru: “Mae’n fraint cael Iolo yn arwain y teithiau hyn i ni. Mae ei wybodaeth o fyd natur heb ei hail, a gwelsom pan oedd yn fentor i Steve Backshall ar ‘Iaith ar Daith’ ei fod yn athro Cymraeg gwych.
“Dw i hefyd o’r farn bod sgwrs yn llifo lawer gwell wrth fynd am dro yn yr awyr iach a bydd hwn yn gyfle i ddysgwyr fwynhau siarad Cymraeg wrth ymgolli ym myd natur.
“Mae’n drueni na allwn greu copi carbon o Iolo a’i gael yn arwain bob tro ar draws Cymru! Ond byddwn yn cynnig teithiau cerdded gydag arbenigwyr lleol ym mhob cornel o Gymru.”
Mae Iolo yn gyflwynydd cyson ar raglenni natur Autumnwatch, Winterwatch a Springwatch ar BBC 2 ac ar gyfresi natur ar S4C ac mae’n adaregydd a naturiaethwr profiadol.
Mae hefyd yn gefnogol iawn o’r Gymraeg ac yn ystod y cyfnod clo cyntaf, fe rannodd gyfres o fideos 30 eiliad ar Facebook, gan rannu awgrymiadau ar sut i ddenu bywyd gwyllt i’r ardd a beth i gadw llygaid amdano.
Meddai Iolo: “Rwy’n edrych ymlaen at arwain y teithiau cerdded yma i ddangos rhyfeddodau byd natur ar ddechrau’r haf – o’r blodau yn y cloddiau a’r caeau i alwadau arbennig adar yr adeg hon o’r flwyddyn.
“Yn ifanc, mi oeddwn i’n ddigon ffodus i dreulio llawer o amser yn crwydro cefn gwlad gyda’m taid ac mi ddysgodd lawer o enwau Cymraeg am adar a phlanhigion i mi.
“Bydd y teithiau yma’n gyfle i minnau rannu’r enwau tlws yma, sy’n llawn ystyr, gyda dysgwyr Cymraeg fydd falle heb eu clywed yn eu gwersi Cymraeg.”
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y teithiau rhad ac am ddim hyn, e-bostiwch [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.