Mewn llyfr newydd am y ferch fach annwyl a busneslyd Cadi, mae’r awdures o Ddolgellau, Bethan Gwanas, wedi teithio nôl mewn amser i fyd y Celtiaid, gan ddefnyddio safle Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn fel ysbrydoliaeth.
Mae Cadi a’r Celtiaid yn llawn darluniadau lliwgar gan Janet Samuel sydd yn dod â’r cymeriadau a bywyd y Celtiaid yn fyw i ddarllenwyr ifanc.
“Dwi wrth fy modd efo’r ffordd mae Janet yr arlunydd wedi darlunio’r safle – a’r cymeriadau Celtaidd sydd yn y stori!” meddai Bethan Gwanas am waith y darlunydd sydd wedi darlunio’r pedair stori yng nghyfres Cadi.
Mae’r antur yma wedi’i hysbrydoli gan y ffaith bod plant ysgolion cynradd yn astudio cyfnod y Celtiaid fel rhan o’r cwricwlwm hanes.
Er hynny, mae prinder llyfrau a nofelau Cymraeg i ddod â’r byd hwnnw’n fyw i blant.
Meddai Bethan: “Mae ’na nifer o fannau diddorol i ymweld â nhw yng Nghymru er mwyn dysgu am ein hen, hen hanes, ond doedd neb, hyd y gwyddwn i, wedi dod â Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn i mewn i stori ar gyfer plant 5 i 8 oed.
“Ro’n i wedi bod yno gyda chriw o ffrindiau yn ddiweddar, ac mae’n le rhyfeddol.”
Yn debyg i lyfrau blaenorol Cadi, mae yna foeswers yn y stori hefyd: “Ro’n i hefyd yn gwybod bod plant heddiw yn dysgu am ‘Feddylfryd o Dwf’ neu ‘Fetawybyddiaeth’, sef dysgu bod angen dyfalbarhau er mwyn dysgu pethau newydd a bod gwneud camgymeriad yn rhywbeth positif gan ein bod yn dysgu o hynny. Felly mae’r elfen honno yn y stori hefyd.”
Cambrian News yr wythnos hon ar gael yn y siopau nawr







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.