Mae plant Ceredigion yn cael y cyfle i fagu eu sgiliau cerddorol gyda sesiynau blasu chwarae’r delyn.

Darparir y dosbarthiadau gan Fudiad yr Urdd yng Ngheredigion ar ôl iddynt dderbyn grant Haf o Hwyl gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae swyddog gymunedol yr Urdd yng Ngheredigion, Caryl Griffiths, ar daith gyda’r cwmni Telynau Derwent o amgylch ysgolion y sir yn darparu’r sesiynau i’r plant.

Mae Caryl wedi mynd ati i archebu telynau bach sydd wedi’u cynllunio a’u creu gan y cwmni o Lanrhystud.

Meddai Caryl: “Y prif bwriad yw i sicrhau bod y delyn yn cael ei gweld fel offeryn sy’n hygyrch (yn fforddiadwy/ yn bosibl i gludo/storio) i bob un plentyn a pherson er mwyn sicrhau bod ein traddodiadau ni fel Cymry yn parhau yng ngwaed ein hifanc.

“Mi fyddwn hefyd yn darparu sesiwn i’r plant o Wcráin sydd yma’n aros gyda ni yn y gwersyll (Llangrannog) ym mis Awst.”

Yn dilyn y sesiynau blasu, mae Caryl yn gobeithio parhau i gynnig sesiynau/gwersi telynau i ysgolion Ceredigion, gyda’r gobaith i ddechrau ensemblau/corau telynau o fewn y sir.