MAE teulu Gareth F Williams, un o brif awduron llyfrau plant a phobl ifanc yr hanner canrif diwethaf yn y Gymraeg, wedi derbyn y Tlws Mary Vaughan Jones 2018.

Cyflwynwyd y tlws i deulu Gareth F Williams mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd ym Mhortmeirion, nos Iau, 18 Hydref.

Mae’r tlws yn portreadu cymeriadau o lyfrau’r ddiweddar Mary Vaughan Jones megis Sali Mali a Jac y Jwc.

Arweiniwyd y noson gan Bethan Gwanas a chafwyd cyfraniadau gan Manon Steffan Ros, Meinir Wyn Edwards a disgyblion o Ysgol Uwchradd Eifionydd yn ogystal â datganiad cerddorol gan Siwan Llynor ac Emyr Rhys.

Rhoddwyd hamperi o lyfrau’r awdur i Ysgol Eifion Wyn ac Ysgol Eifionydd gan Gyngor Llyfrau Cymru i ddathlu’r achlysur.

Cyflwynir y tlws bob tair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru er cof am Mary Vaughan Jones, a fu farw ym 1983, i rywun a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.

“Mae cyfraniad Gareth F Williams wedi bod yn allweddol i ddatblygiad llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru,” meddai Helen Jones, pennaeth adran llyfrau plant a hyrwyddo darllen y Cyngor Llyfrau.

“Mae’n anodd mesur maint ei ddylanwad dros y blynyddoedd. Wrth ei anrhydeddu â’r tlws hwn – yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru – rydym yn cydnabod ei gyfraniad amhrisiadwy ac yn diolch am ei waith dros nifer o flynyddoedd. Byddai Gareth mor falch o dderbyn y wobr hon,’ meddai’r awdures Bethan Gwanas. Roedd wrth ei fodd yn ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc, a llwyddodd i swyno, dychryn ac ysbrydoli cenedlaethau o ddarllenwyr yn ystod ei yrfa.”