Mae hanes un o arwyr mawr Cwm Rhondda yn cael ei chroniclo mewn traethawd sylweddol a gyhoeddir gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru.

Bardd, dramodydd a chenedlaetholwr adnabyddus oedd James Kitchener Davies (1902-1952), a aned yn Nhregaron ond a wnaeth ei gartref yn Nhrealaw yn y Rhondda Fawr.

Gweithiai Kitch yn ddi-baid dros Blaid Cymru, wrth annerch cyfarfodydd stryd yn y cymoedd, gan gynnwys un achlysur enwog yn ystod cyfarfod a anerchwyd gan Gwynfor Evans yn Nhonypandy yn 1938 ble mai fe oedd targed bricsen!

Yr Athro M. Wynn Thomas yw awdur yr erthygl, sydd wedi’i seilio ar ddarlith a draddododd yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Prif nod Kitch oedd dihuno’i gyd-Gymry o’u trwmgwsg cenedlaethol, medd yr Athro Thomas.

“Yn ddiamau Kitch, yn anad neb, a wnaeth baratoi’r ffordd ar gyfer sefydlu ysgolion Cymraeg yn y Rhondda, datblygiad sy erbyn hyn wedi sicrhau bod yr iaith i’w chlywed ar wefusau cynifer o’r trigolion,” dywed yn ei erthygl.

Mae’n mynd ymlaen i olrhain ei blentyndod, a’r effaith mawr y cafodd colli’i fam pan fu ond yn chwe blwydd oed, gan adael chwerwder a’r dicter na fedrai eu mynegi ar y pryd.

Mae Wynn Thomas, sy’n enedigol o’r Rhondda, yn dal Cadair Emyr Humphreys mewn Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru.

Yn awdur toreithiog, mae’i waith yn cynnwys y cofiant Kitchener Davies a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2002.

Gellir darllen yr erthygl yn y ddwy iaith ar wefan Cymdeithas Hanes Plaid Cymru, hanesplaidcymru.org.