Y Sul

FESTRI Maesyneuadd, 10yb a 5.30yh, y Parch Angharad Roberts.Wyt ti’n cofio? ROEDD sesiwn gyntaf y gyfres Wyt ti’n cofio, stori Trefor, yn llwyddiannus iawn.Bydd yr ail sesiwn nos iau, 19 Mai, yn Festri Maesyneuadd.Bydd hwn yn cynnwys cwis hwyliog am Drefor rhwng tri thîm. Dewch i gefnogi.Croeso i chi ddod â hen luniau neu bethau sy’n eich atgoffa o Drefor stalwm.Croeso i bobl sydd wedi’u magu yn Nhrefor a phobl sy’n newydd i’r ardal i gael gweld beth sy’n gwneud Trefor yn Drefor.

Cwis a Cyrri

NOS Wener yma yn Festri Maesyneuadd, bydd cwis a cyrri a gwahanol fathau o gawl i godi arian at Gymorth Cristnogol. Dewch â thîm neu dewch eich hun. Mynediad yn £2.