Cymdeithas Hanes
BYDD cyfarfod y gymdeithas ar nos Iau, 25 Chwefror, am 7.30yh yn Festri Bwlchgwynt.Disgwylir Idris Morgan, Banc-llyn, i roi hanes ‘Hen Gymeriadau’ i ni.
English Methodist Church
THE SERVICE on Sunday, 28 February, will be held in the Memorial Hall.It will be led by Dionne Sherwood and starts at 2.30 pm. A warm welcome to everyone.
Clwb Cerdded
THE NEXT walk is scheduled for 12 March and is called Tregaron Circular.The leaders are Aled and Teleri Garner (01974 298734). A pleasant circular walk starting at Y Talbot, Tregaron Square, it crosses the rivers Brenig and Teifi at two different points and an old railway bridge on ‘Gipsy Lane’. You are almost certain to see red kites and if lucky, a heron on the banks of the Teifi. There are great views across Tregaron and towards Cwm Berwyn and the Cambrian Mountains, and there will be a chance to take in the beautiful scenery of Cors Caron – the largest peat bog of its kind in Western Europe – from the disused bridge of Pont Einon. A small section can be boggy and gaiters are advisable. The walk is a grade A, easy walk which should last approximately two-and-a-half hours.It is over a distance of four miles and the meeting point is at 10am outside Y Talbot.If you would like to become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club then feel free to call the secretary, Dafydd, on 01974 298150.
Cawl a Chân
CYNHELIR noson Cawl a Chân yn y Clwb Bowlio nos Fawrth, 1 Mawrth, am 7yh.Bydd adloniant gan Dafydd Jones a Caryl Haf. Mae tocynnau ar werth yn y Swyddfa’r Bost gyda pris o £5. Cofiwch ddod â llestri. Croeso cynnes i bawb.
200 Club
WINNERS of the February draw are: 177, Rhys and Delyth Jones, Tregaron; 75, Idwal Jones; 235, John Jones, Tregaron.
Merched y Wawr
CROESAWYD yr aelodau ar nos Fercher, 3 Chwefror, gan Ann Morgan, y llywydd, ac estynnwyd croeso arbennig i aelod newydd sy’n ddysgwraig, sef Myra Mort-lock. Penderfynwyd cyfrannu arian y raffl i Gronfa Jowai, apêl sy’n cynorthwyo creu uned famolaeth a gwell offer mewn ysbyty yng ngogledd ddwyrain yr India.Dymunwyd yn dda i’r aelodau a oedd yn cystadlu yn y chwaraeon rhanbarthol a diolchwyd i Yvonne Jones am gymryd at y trefniadau.Y wraig wadd oedd Glenys Mor-gan o Benrhyncoch, neu Glenys y Bryn fel y mae’n cael ei hadnabod yn aml! Dywedodd Ann wrth ei chyflwyno fod Glenys yn brofiadol iawn ym myd trefnu blodau. Mae’n cystadlu mewn amryw o sioeau ac wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae hefyd yn beirniadu ac yn cynnal dosbarthiadau. Dechreuodd Glenys trwy ddweud ei bod yn ddyledus iawn i’r Clwb Ffermwyr Ifanc, a rod-dodd bob cyfle iddi i ddatblyu ei thalentau. Mae’n hoff iawn o bob math o waith crefft a gosod blodau.Aeth ati i drefnu gosodiadau hyfryd a hynny mor rhwydd a hamddenol. Bu rhai o’r aelodau, sef Ann Morgan, Margaret Jenkins, Marged Lewis, Mari Morgan, Myra Mortlock a Delyth Rees, yn ddigon lwcus i’w hennill.Diolchwyd yn gynnes i Glenys gan Beti Jones gan ddweud ei bod yn feistres ar ei gwaith.Er mai gosod blodau ddan-goswyd ar y noson, mae’n dalentog iawn ac yn gallu troi ei llaw at lawer iawn o grefftau. Roedd y gwaith gorffenedig yn werth ei weld ac yn wledd i’r llygad. Gorffennwyd gyda phaned o de a bisgedi a baratowyd gan aelodau Pwyllswyddog a Rhydyfawnog.Cynhelir noson i ddathlu Gwyl Ddewi ar nos Fercher, 2 Mawrth, yn y Neuadd Goffa am 7yh yng nghwmni Bois y Rhedyn. Dewch â llestri os gwelwch yn dda.
Capel Bwlchgwynt
CYNHELIR oedfa ddydd Sul, 28 Chwefror, am 5yh.Disgwylir y Parch Elwyn Pryse i wasanaethu.
Oedfa Deuluol
ROEDD yn braf gweld y festri’n llawn unwaith eto ar fore Sul, 21 Chwefror, i’r Oedfa Deuluol. Croesawyd pawb gan y gweinidog, y Parch Carwyn Arthur, a thema’r gwasanaeth oedd Y Beibl.Roedd y bwrdd yn y ffrynt yn llawn cynhwysion, a phawb yn meddwl beth sy’n digwydd! Dyma’r bugail yn gwisgo ffedog ac yn mynd ati i wneud tarten afal. Gwelwyd llun hyfryd o’r darten, a dyma fe’n dechrau! Ni wnaeth gadw at y mesuriadau na’r cyfarwyddiadau oedd yn y rysait, ac nid oedd y darten orffenedig yn edrych yn ddim byd tebyg i’r llun! Eglurodd fel y mae’n hanfodol i ni ddilyn y cyfarwyddiadau cywir yn ein bywydau, fel y mae’r Beibl yn dangos i ni. Rhoddwyd yr emynau allan gan Osian Jones a Mari Williams, Ianto a Twm James, Gwenno a Megan Dark, Zara a Wil Evans, ac offrymwyd gweddi gan Elin Williams. Casglwyd gan Dafydd Bennett ac Ifan Williams, a chyfeiliwyd gan Nerys Bennett. Ar hyn o bryd mae’r plant yn dysgu Salm 23 ar eu cof, ac adroddasant y ddwy adnod gyntaf. Cafwyd eitem swynol ganddynt yn canu un o’r emynau allan o’r Detholiad i gyfeiliant Catherine Hughes.Ar hyn o bryd mae Cyngor Ysgolion Sul yn cydweithio gyda Chymdeithas y Beiblau ar brosiect Agor y Llyfr. Mae’n gynllun sy’n galluogu eglwysi i greu cysylltiad gydag ysgolion lleol drwy ymweld i ddarllen ac actio stori Feiblaidd i’r plant. Roedd y DVD a ddangoswyd yn profi fod y prosiect yma yn llwyddiannus iawn a gofynnwyd am wirfoddolwyr a fyddai’n fodlon cynorthwyo.Dosbarthwyd copi o Beibl.net i’r plant – un i bob teulu. Cyhoeddwyd a diolchwyd i bawb gan Gareth Jones.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.