Capel Bwlchgwynt

CYNHELIR oedfa fore Sul, 29 Mai, am 10yb a gwasanaethir gan Huw Roderick.

Merched y Wawr

AR NOS Fercher, 4 Mai, estynnwyd croeso cynnes i’r Neuadd Goffa gan Ann Morgan, y llywydd. Roedd hwn yn gyfarfod olaf o dan ei llywyddiaeth a diolchodd i bawb am eu cefnogaeth, ac yn enwedig i Margaret Jones yr ysgrifenyddes ag Yvonne Jones y drysoryddes am eu cymorth.Trist oedd gorfod cofnodi ein bod wedi colli aelod a fu’n ffyddlon iawn i’r gangen trwy’r blynyddoedd. Roedd Betty Lewis, Brynce-lyn, wrth ei bodd gyda holl weithgareddau’r gangen a chydymdeimlwyd gyda’i theulu yn eu colled. Ar nodyn hapusach, llongyfarchwyd Jane a David Rhystud Hughes, Rhos Helyg, ar ddathlu eu priodas aur yn ddiweddar. Dymunwyd yn dda i Ann Davies a Marged Ann Rees fyddai’n cystadlu yn y chwaraeon cenedlaethol a gynhelir ym Machynlleth.Dyma noson y cyfarfod blynyddol ac roedd Gareth Jones a Jim Williams wedi dod i gyfrif y pleidleisau. Dyma’r swyddogion am y flwyddyn nesaf: llywydd, Marian Davies; ysgrifenyddion: Ann Pugh a Catherine Williams; trysorydd, Beti Jones; is-lywydd Mared Rand Jones; is-ysgrifenyddion, Angharad Jenkins a Nerys Pugh; is-drysorydd, Nerys Williams.Aelodau’r pwyllgor: Marian Jones, Elizabeth Jones, Nerys Bennett, Esyllt Evans, Dorothy Morgan ac Ann Davies.Aeth Ann ymlaen i gyflwyno a chroesawu ein gwraig wadd, sef Angela Skym o Landdarog.Mae Angela yn berson gweithgar iawn yn ei chymdeithas ac wedi ennill Gwobr y Gymuned am yr holl waith mae’n ei gyflawni. Roedd wedi dod â nifer fawr o hetiau o bob math i’w harddangos. Roedd ganddi drawstoriad da ac roedd yn ddiddorol gweld fel mae’r ffasiwn wedi newid trwy’r blynyddoedd.Cafwyd storïau difyr am bob het, ac roedd yn amlwg ei bod wrth ei bodd gyda’i chasgliad. Talwyd y diolchiadau gan Marian Davies, gan ddiolch yn gyntaf i Ann Morgan a’i thîm am flwyddyn lwyddiannus iawn. Aeth ymlaen i ddiolch i Angela am roi o’i hamser i ymuno â ni ac am arddangos y casgliad ardderchog o hetiau sydd ganddi.Mwynhawyd paned o de a bisgedi dan ofal Glesni Lewis ac aelodau Blaencaron, Maesyrawel a Brynheulog, ac enillwyd y raffl gan Ann Pugh. Edrychir ymlaen yn awr at y Daith Ddirgel a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 18 Mehefin.Clwb CerddedTHE next walk is scheduled for 11 June and is called Three Peaks in Wales: Snowdon, Pumlumon and Charn Fawr.The leaders are Dafydd Wyn Morgan (01974 298150) and Martin Pugh (01974 298989).A unique three-peak challenge awaits in Wales’ Year of Adventure 2016. The group will climb the highest national, regional and local peaks in one long day of walking. An early start from Tregaron will see them reach Snowdon for the first peak.Leaving swiftly afterwards, the adventure continues as they travel through mid Wales to climb Pumlumon. Saving enough energy, they then head home to Tregaron before completing the final peak.Food will follow. There is a cost of £12.50 per person towards the bus. There is an optional bar meal in Tregaron after the final peak. The walk is graded a grade D (very hard) walk which should last approximately 18 hours and is over a distance of 18 miles with an ascent of 4500 feet.The meeting point is at 5am out-side Y Talbot. If you would like to become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club, then call Dafydd, the secretary, on 01974 298 150 for further details.

Correspondence

PLEASE note that in future items for inclusion in the Cambrian News should be left for Heulwen Bulman with Gary Jones, the butcher, from this week onwards. Items should be left in the butcher’s before 4pm on Friday afternoons.Also, a reminder that items need to be in earlier should a bank holiday fall the following week.

Clwb Cinio

THERE will be a mystery trip on Wednesday, 25 May, instead of the usual lunch. The coach will leave the square in Tregaron at 9am.

Eglwys Sant Caron

EGLWYS Sant Caron/St Caron’s Church will be open to visitors on Monday, 30 May, with a display of ‘Carthenni and Quilts’, and a glimpse of local history.There will be light refreshments.

Cymdeithas Hanes

CYNHELIR noson olaf o’r tymor yma ar nos Iau, 26 Mai, am 7.30yh yn Festri Bwlchgwynt. Bydd y noson dan ofal Cyril Evans.