English Methodist Church

THE service on Sunday, 17 July, will be held in the Pantyfedwen hall, Pontrhydfendigaid, beginning at 2.30pm and led by Ruth Gooding.

Merched y Wawr

FORE Sadwrn ar ddiwedd Mehefin aeth criw o aelodau ar y daith ddirgel flynyddol. Yn ôl yr arfer roedd tipyn o bendroni i ba gyfeiriad byddai’r bws yn mynd, a dyma ni yn troi am Bontrhydfendigaid, mynd trwy Gwmystwyth a chyrraedd Canolfan Ymwelwyr Elan. Mae’n ganolfan llawn o nodwed-dion hanesyddol a bywyd gwyllt. Mae’n le poblogaidd iawn gan yr ymwelwyr, yn ddelfrydol i grwydro’n hamddenol, seiclo neu feicio mynydd; gwylio adar, pysgota a llawer iawn mwy.Cafwyd gyfle i edrych o gwmpas, dysgu mwy am hanes y ganolfan, a mwynhau paned o de a chacen.Mynd yn ein blaenau wedyn nes cyrraedd Gelli Gandryll. Mae’r Gelli yn dref adnabyddus am ei siopau lyfrau ail law, ac roedd yn agoriad llygad i weld yr holl siopau bach unigryw.Roedd y tywydd yn braf a mwyn-hawyd cerdded yn hamddenol o gwmpas y dref brydferth yma. Dyma ni nôl ar y bws, ac wedi mynd am ychydig o filltiroedd arhoswyd yng Nghanolfan Arddio ‘The Old Railway Line’. Roedd hon yn Ganolfan werth ei gweld gyda blodau o bob math a digon o bopeth at ddant pawb – cyfle da i wneud rhagor o wario!!Erbyn nawr cwestiwn pawb oedd - lle roeddem yn cael swper? Dyma gyrraedd gwesty’r Plough yn Rhosmaen, a mwynhawyd pryd o fwyd a baratowyd ar ein cyfer. Diolchwyd i Ann Morgan a Margaret Jones am drefnu diwrnod pleserus ac i staff y Plough am y wledd flasus gan Marian Davies. Rhoddwyd diolch hefyd i Alwyn y gyrrwr am ein cludo mor ofalus gydol y dydd. Cyn troi am adre tynnwyd y raffl ac enillwyd y gwobrau gan Nerys Pugh, Jan Davies a Margaret Jenkins.

Capel Bwlchgwynt

CYNHELIR oedfa deuluol fore Sul, 14 Gorffennaf am 10yb dan ofal y gweinidog, y Parch Carwyn Arthur. Croeso cynnes i bawb.Oedfa deuluolFORE Sul, 19 Mehefin cynhaliwyd yr oedfa deuluol o dan ofal y Parch Carwyn Arthur gyda chymorth Mrs Elizabeth Jones. Thema’r gwasanaeth oedd ‘Y Creu’, a dilynwyd prosiect Agor y Llyfr sy’n gynllun tair blynedd i alluogi eglwysi i greu cysylltiad gyda’i hysgol leol drwy ymweld i ddarllen stori Feiblaidd i’r plant.Cyflwynwyd y stori gan Eliza-beth Jones gyda chymorth y Parch Carwyn Arthur, Alice Jones, Delyth Rees, Catherine Hughes a Wil Jones.Rhoddwyd yr emynau allan gan Carys Down, Wil a Iago Evans, Osian Jones ac Ifan Williams. Darllenwyd gan Gwenno a Megan Dark ac Elin Williams, ac offrymwyd gweddi gan Ianto James. Casglwyd gan Elis Hockenhull a Mabli Dark a chyfeiliwyd gan Llinos James. Diolchwyd i bawb a gyfrannodd tuag at y gwasanaeth gan Cather-ine Hughes.