Sbwriel un dyn yw trysor dyn arall fel maen nhw’n dweud. Ac mae hyn i’w weld yn amlwg yn Yn y Fan a’r Lle, y gyfres sy’n dilyn dreifars faniau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.
Pan fydd dodrefn i’w cludo, llanast i’w sortio, ac ambell drysor i’w cynnig, mae ‘na hogia’ sy’n medru synhwyro bargen.
Nhw sy’n atal tunelli o gelfi defnyddiol rhag glanio ar domenni sbwriel wrth roi cartref newydd i eiddo, bod yn rhywle newydd sbon, yn sêl bwt car, yn ocsiwn neu’n sgip.
Yn ystod y cyfnod clo heriol, penderfynodd Rhys Evans – un o hogia’r faniau – i newid trywydd ei fywyd rhyw fymryn, ac agor siop i werthu hen gelfi rystig a diddorol.
Ymysg trugareddau rhyfeddol ei siop yn y Bala mae stolion wedi’u gwneud o hen seti tractor, llythrennau pitch defaid, hen gadeiriau hardd, poteli dŵr poeth hen ffasiwn, ffon fugail o gorn byffalo, meinciau capel a hen hysbyseb sigarennau wedi’i fframio.
“Ers pan o’n i’n 16 oed ro’n i’n gweithio adre ar y ffarm” meddai Rhys, sy’n byw yn y Bala.
“A dwi ‘di bod yn mynd i’r ffarm lle dwi’n helpu allan rŵan ers dros 25 mlynedd.
“Ond ar ôl bod yn gweithio i rywun arall, ro’n i ‘di cyrraedd y pwynt lle o’n i ‘di cyrraedd y 40 ac o’n i’n meddwl ‘ah mae bywyd yn rhy fyr; dwi jest ishio gwneud rhywbeth i fi’n hun a dwi’n mynd i brynu a gwerthu pethau.
“O’dd ‘na siop yn wag yn Bala, ac felly nes i gymryd honno drosodd - ac iddi!
“Dwi’n eitha’ licio cadw’r siop yn minimalist - dwi’m ishio rhoi gormod o stwff allan neu mae o jest yn dallu pobl.
“Dwi’n eitha’ ffysi am be dwi’n prynu. ‘Na i jest prynu pethau dwi’n licio sydd i ‘nhast i. Mae ‘na hanes a stori i lot o’r trugareddau.”
Yn rhaglen yr wythnos hon, mae fan Rhys yn barod i gludo unrhyw fargeinion os ydi o’n dod o hyd i rai mewn ocsiwn ar-lein dros y ffin er mwyn eu gwerthu yn y siop.
“Fel rheol fydda i ddim yn mynd i’r ocsiwn oherwydd mae o ar ddydd Iau a fydda i yn y siop, a dwi’n gorfod gamblo os leci di, a phrynu dros y we,” meddai Rhys.
“Fel arfer ti’n olreit, ond ma’ ‘na rai dodrefn dwi wedi prynu – ma’n edrych yn dda ar y we a wedi ti fynd yno i weld nhw, ti’n meddwl ‘be yfflon ‘di hwn?’”
Sut siâp fydd ar y trugareddau fydd Rhys wedi ennill yn yr ocsiwn ar-lein?
A fydd trysorau drudfawr yn eu mysg? Bydd rhaid gwylio…
• Yn y Fan a’r Lle. Nos Lun 7 Mawrth 8.25, S4C. Isdeitlau Cymraeg a Saesneg.
Ar alw: S4C Clic; BBC iPlayer a llwyfannau eraill. Cynhyrchiad Darlun ar gyfer S4C







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.