Ddeugain mlynedd ers codi baner roc Cymraeg yn Llambed a Dyffryn Teifi mae’r band Unwaith Eto – sy’n cynnwys Richard Marcs – cyfansoddwr Yr Un Hen Le (Cân i Gymru, 1991) – wedi bod nôl yn y stiwdio recordio unwaith eto.

A ma’ nhw wedi cael hwyl arni hefyd wrth iddyn nhw roi ar glawr a chadw naw cân sy’n cynnwys rhai sydd wedi goroesi o ’70au cyffrous eu hieuenctid.

Medd eu lleisydd, Gwilym Jones Lewis: “Pan o’n ni’n sgwennu a pherfformo rhai o’r caneuon yma gynta nôl yn y saithdegau o’dd ’na deimlad eitha’ mentrus iddyn nhw.

“O’dd hi’n grêt gweld neuaddau cefen gwlad yn llawn bobol ifenc yn neidio a thasgu wrth i ni whare’r caneuon cyflym neu’n dala’n gariadus wrth ei gilydd i gyfeiliant Dilyn y Don, a chaneuon diwedd-y-nos debyg.”

Ond yn unol â natur pethe, mae’r hyn oedd i glywed yn fentrus ddoe wedi troi’n swn mwy canol-y-ffordd heddi. Ac mae cynhyrchydd y CD newydd, Richard Marcs, yn gwbl gysurus â hynny.

Medd Richard: “Ma’ Gwilym, Bernard a finnau – y tri sydd ar ôl o’r band gwreiddiol – wedi... wel, aeddfedu ryw dipyn bach wedwn ni. A dwi’n gobeithio fod y trefniadau newydd ar yr hen ganeuon yn adlewyrchu hynny o ran ansawdd y swn a’r perfformio.”

Mae’r diolch am goethder y traciau ar Dilyn y Don nid yn unig i allu Richard fel cynhyrchydd ond hefyd i’w ddawn aml-offerynnol.

Medd Bernard Davies, allweddellwr Unwaith Eto: “Gitâr, bâs, banjo, organ geg, drymiau a hyd-yn-oed fy offeryn i – allweddellau – sdim pall ar allu Richard. Sdim ise cant a mil o offerynwyr gwahanol arnoch chi os yw Rich yn y band. Mae e’n gallu troi ei law – a’i glust – at unrhyw beth!”

Ond er eu hyblygrwydd ma’ bois Unwaith Eto wedi ychwanegu aelod newydd at y band ar gyfer y gwaith recordio, sef Lisa Regan – cantores sy’n llais cyfarwydd i gynulleidfaoedd pantomeim a sioeau cerdd Theatr Felinfach.

Medd Gwilym: “Mae cael llais cyfoethog a phrofiadol Lisa ar yr albwm wedi bod yn gymorth amhrisiadwy. Mae hi wedi gwneud i’r hen ganeuon hyn ganu o’r newydd unwaith eto – a chodi dipyn o’r faich oddi ar y’n llais i hefyd!”

Mwynhaodd Unwaith Eto lwyddiant a hei-leiff bandiau mawr y ‘70au. Felly pam bwrw ati ddeugain mlynedd yn ddiweddarach? Er mwyn rhoi siot arall ar fyd-enwogrydd falle?

Fel y byddech chi’n disgwyl gan fechgyn sydd wedi rhoi oes dawel o wasanaeth i’w cymdeithas a’i hiaith a’i diwylliant does gan yr ateb ddim oll i’w wneud ag unrhyw uchelgais personol.

Medd Gwil: “Yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwetha’ ry’ ni wedi colli dau ffrind – dau gyd-gerddor – Sam Rees ac Eirion Williams – i glefyd y galon. Ffordd o drio ymateb yn gadarnhaol i hynny oedd y penderfyniad i ddod ynghyd a chreu’r albwm hwn a thrwy hynny godi arian ar gyfer Sefydliad Clefyd y Galon. Wrth i ni edrych yn ôl gobeithio y bydd yr arian a godwn yn help i bobol eraill edrych ymlaen.”