MAE Wil Williams o fferm Ty Hen, Llangwnadl newydd ddathlu ei ben-blwydd arbennig yn 65 oed.
Nid oedd eisiau parti nag anrhegion, ond yn hytrach ei ddymuniad oedd cynnal gweithgaredd adra ar y fferm yn Llangwnadl, i gasglu arian tuag at achosion da.
Penderfynodd Wil a’r teulu fynd ati i drefnu ‘Gwyl Elusennol’ gyda chystadleuaeth cneifio cyflym, ocsiwn addewidion a llawer i weithgaredd arall.
Yn ystod y diwrnod fe alwodd rhwng 400-500 o bobl draw i fferm Ty Hen a mwynhau’r gwahanol weithgareddau oedd ar gael ac erbyn diwedd y dydd roedd cyfanswm o £4,500 wedi ei gasglu.
Dymuniad Wil yw cyflwyno’r arian i ‘Ymchwil Cancer UK’ a ‘Hosbis yn y Cartref’ a bydd y sieciau’n cael eu cyflwyno yn yr wythnosau nesaf.
Mae Wil a’r teulu yn ddiolchgar i bawb wnaeth gynorthwyo i wneud y diwrnod yn gymaint o lwyddiant, i’r rhai fu’n brysur ar y diwrnod yn helpu, i’r cyfranwyr a phawb wnaeth troi allan i gymryd rhan yn y cystadlu a’r hwyl.
Yn y llun gwelir Wil (dde, rhes gefn) gyda’i wraig Ruth a rhai o’r blant a’r wyrion a fu’n cynorthwyo ar y diwrnod a chyda’r trefniadau. Hefyd yn y llun mae rhai o’r defaid a ddaeth draw i gael eu cneifio.




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.